Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Hillary Clinton gyda'r ysgolheigion

Arweiniodd Hillary Rodham Clinton seminar gyda derbynwyr cyntaf Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe yn gynharach heddiw (dydd Iau, 14 Tachwedd).

Lansiodd y Brifysgol y rhaglen ysgoloriaethau mewn partneriaeth â Sky yn gynharach eleni, a dewiswyd pum unigolyn eithriadol dros yr haf i dderbyn ysgoloriaeth ôl-raddedig wedi'i hariannu'n llawn am flwyddyn i astudio yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe.

Nod yr ysgoloriaethau yw cefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymrwymedig i fynd i'r afael â heriau byd-eang, gan gynnwys hawliau a diogelu plant ar-lein, yr argyfwng hinsawdd, a seiberddiogelwch.

Yn ystod y seminar, trafododd yr ysgolheigion eu meysydd ymchwil gyda Mrs Clinton, gan rannu eu gobeithion a'u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Cawsont hefyd gyfle i holi Mrs Clinton ynghylch eu profiadau hi o weithio fel gwleidydd, diplomat a chyfreithiwr.

Mae ysgolheigion y rhaglen Heriau Byd-eang yn cynnwys dwy fenyw o Gymru:

  • Mae Otgontuya Davaanyam yn gyfreithiwr cymwys 28 oed o Fongolia. Ar hyn o bryd mae'n cyfrannu at y rhaglen fentora Menywod mewn Cyfraith Ryngwladol, a drefnir gan y Gymdeithas Cyfraith Ryngwladol Americanaidd, ac mae'n gweithio yn intern yn Fifty Eight, sy'n cynnal ymchwil i gadwyni cyflenwi llafur plant a chaethwasiaeth modern. Mae'n gobeithio datblygu ei hymchwil i gaethwasiaeth modern drwy'r rhaglen Heriau Byd-eang, a defnyddio'r sgiliau y bydd yn eu dysgu drwy'r rhaglen i hybu hawliau dynol yn ei mamwlad.
  • Mae gan Angharad Devereux, sy'n 26 oed ac a fagwyd yn Abertawe, raddau yn y Gwyddorau Dynol, Cymdeithasol a Gwleidyddol o Brifysgol Caergrawnt, a gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Fyd-eang o Ysgol Economeg Llundain. Maes ei ffocws ar gyfer y rhaglen Heriau Byd-eang yw diogelu plant rhag niwed ar-lein, ac ar hyn o bryd mae'n cynnal adolygiad o strategaeth i atal radicaleiddio ar-lein gyda chydweithwyr yn Ysgol y Gyfraith.
  • Mae Ruwadzano Patience Makumbe yn gyfreithiwr hawliau dynol 27 oed o Simbabwe. Cyn dechrau ar y rhaglen Heriau Byd-eang, hi oedd yr Arbenigwr Ymgyfreithiad Effaith Strategol ar gyfer Fforwm NGO Hawliau Dynol Simbabwe. Fwyaf diweddar, gweithiodd Ruwadzano ar achos mawr yn herio Llywodraeth Simbabwe yn cau'r rhyngrwyd fel toriad ar hawliad digidol a rhyddid mynegiant. Ei ffocws ar gyfer y rhaglen Heriau Byd-eang yw cyfraith hawliau dynol.
  • Mae Charlotte Morgan, sy'n 23 oed ac yn dod o Aberdâr, yn raddedig Prifysgol Caerdydd y mae ganddi hanes helaeth o wirfoddoli, ac mae'n cyflawni nifer o rolau gwirfoddol ar hyn o bryd, yn cynnwys Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gan gynnwys cynorthwyo â rhaglenni Siarad Cyhoeddus Ysgolion Cymru a Chynhadledd Ysgolion Model y Cenhedloedd Unedig. Bydd ei hymchwil yn ystod y rhaglen Heriau Byd-eang yn canolbwyntio ar gaethwasiaeth modern, ac ar ôl cwblhau'r rhaglen mae'n gobeithio gweithio i sefydliad elusennol gyda phwyslais ar faterion byd-eang
  • Mae Andrea Stanišić yn gynorthwyydd prosiect 25 oed i'r felin drafod y Ganolfan ar gyfer Democratiaeth a Hawliau Dynol, lle cynhaliodd ymchwil ar faterion yn amrywio o reolaeth y gyfraith, hawliau dynol a chynhwysiad cymdeithasol i integreiddio Ewro-Iwerydd, diogelwch ac amddiffyn. Ar hyn o bryd mae'n gweithio'n agos gyda Chymdeithas y Bar Unol Daleithiau America ar ei Rhaglen Amddiffynwyr Cyfiawnder, a bwriada barhau â'i hymchwil i hawliau dynol amgylcheddol pan fydd yn dechrau ar y rhaglen Heriau Byd-eang.

Wrth lansio'r rhaglen ysgoloriaethau yn gynharach eleni, dywedodd Mrs Clinton: "Rydw i wrth fy modd y bydd y bartneriaeth hon rhwng Sky ac Ysgol y Gyfraith Abertawe yn gallu cyflawni rhywbeth gwirioneddol unigryw, mewn modd sy’n cyd-fynd â’r angen brys i fynd i’r afael â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu heddiw. Bydd yr ysgolheigion hyn yn ymgorffori ein gwerthoedd cyffredin o gydweithio ar draws disgyblaethau a ffiniau daearyddol i wella amodau a chyfleoedd i bawb, ac yn enwedig i fenywod, plant, y rhai sydd wedi'u hymyleiddio a'r difreintiedig."

Meddai'r Athro Elwen Evans, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham: "Mae pum ysgolhaig cyntaf y rhaglen Heriau Byd-eang oll yn unigolion eithriadol ac yn hyrwyddwr ymrwymedig dros newid. Ma ganddynt ystod o sgiliau cyflenwol i'w cynnig i'r rhaglen ac i ddod o safbwyntiau byd-eang o Affrica, Asia ac Ewrop, yn ogystal â phrofiadau lleol yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint cyflwyno'r ysgolheigion i'r Ysgrifennydd Clinton, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw, yr Ysgrifennydd, Sky a'n partneriaid eraill i geisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau byd-eang a wynebwn."

Rhannu'r stori