Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Menyw feichiog

Mae academyddion Prifysgol Abertawe yn galw am ofal iechyd gwell wedi'i dargedu ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd sy'n profi iselder, yn dilyn astudiaeth newydd sy'n edrych ar effaith iselder ysbryd a gwrthiselyddion.

Yr Athro Sue Jordan o Goleg Gwyddor Dynol ac Iechyd y Brifysgol sydd wedi arwain yr astudiaeth. Mae’n dweud y gallai’r canfyddiadau gael eu defnyddio i helpu clinigwyr i wella gofal i fenywod yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn rhoi genedigaeth. Cyhoeddir yr ymchwil newydd yma a elwir yn Antidepressants and perinatal outcomes, including breastfeeding, heddiw yng nghylchgrawn PLOS ONE.

Er mwyn ymchwilio i iechyd babanod a aned i fenywod a oedd wedi cael eu trin am iselder, defnyddiodd tîm yr astudiaeth ddata a guradwyd gan SAIL Databank, mewn cydweithrediad â thîm gwasanaethau dadansoddol SAIL Databank, a leolir yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Archwiliodd ymchwilwyr ddata gan fwy na 100,000 o fabanod a oedd wedi eu geni rhwng 2000 a 2010. Roedd hyn yn cynnwys 2043 o fabanod [1.9%] y rhagnodwyd gwrthiselyddion i'w mamau trwy gydol eu beichiogrwydd a 4252 y daeth eu presgripsiynau i ben yn y tymor cyntaf.

Mae'r astudiaeth yn rhoi mewnwelediadau allweddol i'r canlyniadau a gofnodwyd, fel genedigaeth cyn amser neu bwysau geni isel ac mae hefyd yn dangos, am y tro cyntaf, pa fabanod oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn 6-8 wythnos.

Canfyddiad allweddol yr astudiaeth oedd:

  • Er nad yw'r dadansoddiad yn manylu ar yr achosion a'r rhesymau pam, roedd menywod a oedd yn rhagnodi gwrthiselyddion, yn enwedig atalyddion ailgychwyn serotonin dethol dos uchel, yn llai tebygol o fod yn bwydo ar y fron yn 6-8 wythnos, ac efallai y byddent yn fwy tebygol o gael babanod â phwysau geni isel.

Meddai’r Athro Jordan: “Mae ein hastudiaeth yn gwneud darllen difrifol: mae'r data'n dangos pa ferched sy'n agored i gyfraddau bwydo ar y fron is, esgor cyn amser, a rhoi genedigaeth i fabanod bach. Dylai'r data gael ei ystyried ochr yn ochr â'n hadroddiadau blaenorol o risgiau uwch o anomaleddau cynhenid yn dilyn presgripsiynau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd cynnar [1].

“Gellid ac fe ddylid nodi menywod sy'n rhagnodi gwrthiselyddion o gofnodion presgripsiwn gofal sylfaenol a'u targedu at gymorth ychwanegol cyn beichiogi. Mae ein dadansoddiad yn cyflwyno achos cryf iawn dros fonitro agosach ar gyfer menywod sy'n defnyddio cyffuriau gwrthiselder rhagnodedig, gan gynnwys sganiau yn y trydydd tymor (neu dechnoleg monitro parhaus amgen) i wirio twf a datblygiad y babi.”

Rhannu'r stori