Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Ymchwilwyr yn Lake Strechlin

Cafwyd dealltwriaeth newydd ar sut y caiff y nwy tŷ gwydr, methan, ei gynhyrchu yn nyfroedd wyneb llynnoedd gan astudiaeth newydd o Brifysgol Abertawe, a ddylai ein hannog i ystyried y cylch methan byd-eang.

Methan yw'r ail nwy tŷ gwydr pwysicaf sy'n seiliedig ar garbon ar ôl carbon deuocsid, ac mae'r cynnydd parhaus ohono yn yr atmosffer yn fygythiad i'r hinsawdd fyd-eang.

Yn ôl ymchwil gonfensiynol, gan gynnwys asesiadau gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), caiff methan ei gynhyrchu'n naturiol mewn amgylcheddau sy'n brin o ocsigen megis corsydd a gwlypdiroedd. Fodd bynnag, mae canlyniad yr astudiaeth newydd hon, a gyhoeddir yn Nature Communications  bellach wedi herio'r asesiadau blaenorol hyn.

Dadansoddodd y tîm ymchwil o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol, Lyn Stechlin yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen, a gweld bod cryn dipyn o fethan yn cael ei gynhyrchu yno yn yr haen ocsigenedig iawn ar yr wyneb.

Darganfu hefyd fod y nwy methan yn cael ei gynhyrchu ar yr wyneb wrth ddod i gysylltiad uniongyrchol â'r aer, a bod lefelau'r allyriadau sy'n teithio'n uniongyrchol i'r atmosffer hefyd yn sylweddol.

Gwnaeth yr ymchwilwyr ragweld bod allyriadau o'r dyfroedd ar yr wyneb yn debygol o gynyddu gyda maint y llyn, a gallent gyfrif am dros hanner o allyriadau arwynebol methan am lynnoedd sy'n fwy nag un cilometr sgwâr.

Meddai'r Athro Kam Tang o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe:  "Mae ein hymchwil yn dangos bod dŵr llynnoedd ocsigenedig iawn yn bwysig iawn, ond eu bod yn ffynhonnell o allyriadau methan i'r atmosffer sydd wedi'u hesgeuluso ers amser hir. Mae'r canfyddiadau newydd hyn yn agor llwybrau newydd ar gyfer ymchwil i fethan ac yn cefnogi asesiad byd-eang mwy cywir o'r nwy tŷ gwydr pwerus hwn.

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Marco Günthel: "Mae allyriad methan mewn llynnoedd yn seiliedig ar rwydwaith cymhleth o brosesau biocemegol a ffisegol – ni chaiff rhai eu deall yn iawn o hyd. Rwy'n gobeithio y bydd ein hastudiaeth yn ysgogi mwy o ymchwil ynghylch y pwnc hwn oherwydd bod ei hangen i ddeall y cylch methan byd-eang yn llawn ac i wella rhagolygon o ran newid yn yr hinsawdd."

 

Rhannu'r stori