Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Creigres cwrel

Mae ymchwil newydd wedi datgelu y gall gweithredu cymunedol cadarnhaol roi hwb i niferoedd pysgod mewn riffiau cwrel a diogelu niferoedd pysgod yno yn y dyfodol.

Cyhoeddodd y gwaith ymchwil cydweithredol, a oedd yn cynnwys academyddion o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, eu canfyddiadau yn y Proceedings of the National Academy of Sciences (PNAS). Mae'r papur yn amlinellu canlyniadau cymdeithasol ac ecolegol y gwaith sy'n cael ei wneud yng nghymunedau'r Muluk a'r Wadau ar Ynys Karkar, yn Papua New Guinea ers 2001.

Mae riffiau cwrel yn darparu bwyd ac incwm i filiynau o bobl, ond mae iechyd riffiau ledled y byd yn gwanhau. Serch hyn, mae’r cymunedau hyn wedi sefydlu system draddodiadol o seibiau cylchdro mewn pysgota i reoli eu hadnoddau pysgod. Mae'r cymunedau yn gwahardd pysgota mewn rhannau o'u riffiau am  ychydig flynyddoedd, ac yna'n eu hailagor pan fydd hynafgwyr a physgotwyr y pentref yn credu bod pysgod wedi newid eu hymddygiad a bod poblogaethau o bysgod wedi adfer. Yna, byddant yn dewis rhan wahanol o'r riff ac yn ailgychwyn y broses. Canfu'r ymchwilwyr fod yr arferion hyn wedi arwain at ddwywaith nifer y pysgod ar rannau o'r riffiau a oedd wedi eu cau o'u cymharu â rhannau a oedd ar agor, ac roedd y broses o gau rhannau yn golygu bod pysgod yn ofni pobl yn llai a'u bod yn haws i'w dal.

Roedd pobl leol yn ystyried bod y system gau yn dda i'w bywoliaeth a dathlwyd pob cyfnod o gau gyda gwledd, gan olygu y byddai'r cyfnod o gau yn cael ei gofio'n gadarnhaol gan y gymuned.

Meddai'r awdur arweiniol, yr Athro Josh Cinner o Brifysgol James Cook yn Awstralia: “Mae'r cymunedau'n defnyddio ymagwedd cymhelliant a chosb i sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â'r caeadau. Os ydynt yn dilyn y rheolau, maent yn ennill yr hawl i wneud math arbennig o bysgota gyda'r nos o'r enw 'bom bom', ond os bydd rhywun yn mynd yn groes i'r rheolau hyn, cânt eu cywilyddio'n gyhoeddus.”

“Mae'r mentrau hyn i ddilyn y rheolau’n cael eu hatgyfnerthu gan arweinyddiaeth gref a phroses benderfynu sy'n galluogi'r holl gymuned i fod yn rhan o'r broses a lleisio barn."

Fodd bynnag, er i'r tîm ganfod y gallai cau rhannau o'r riff gynyddu nifer y pysgod yn y tymor byr, efallai na fydd hi'n ddigonol i leddfu effeithiau cyffredinol pysgota. Serch hyn, mae'r academyddion yn dweud gan fod y cymunedau yn rheoli'r riffiau eu hunain, gallant fyrhau'r cyfnod rhwng caeadau, a allai leddfu'r effaith ar nifer y pysgod.

Meddai gwyddonydd o Brifysgol Abertawe, Dr Fraser Januchowski-Hartley: “Mae ein canfyddiadau hefyd yn dangos er efallai na fydd y system gau yn gweithio ym mhobman, gallai fod gwersi a allai fod yn berthnasol i leoedd eraill. Er enghraifft, drwy fabwysiadu system o hawliau eiddo, annog cyfranogiad a chreu arferion cymdeithasol, gallai cymunedau annog rhagor o arferion sy'n dda i’r amgylchedd yn y dyfodol."

Rhannu'r stori