Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Prifysgol Abertawe yn cydweithio â’r cyngor ar brosiect coetiroedd

Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i adnewyddu coedlan hynafol yng Nghlwb Cymdeithasol Glandŵr a gosod gwrychoedd yn Stadiwm Liberty mewn ymgais i adfywio safle Gweithfeydd Copr Hafod-Morfa ar y cyd â Chyngor Abertawe.

Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i adnewyddu coedlan hynafol yng Nghlwb Cymdeithasol Glandŵr a gosod gwrychoedd yn Stadiwm Liberty mewn ymgais i adfywio safle Gweithfeydd Copr Hafod-Morfa ar y cyd â Chyngor Abertawe.

Gan ddyddio’n ôl i Oes y Cerrig, coedlannu yw’r dechneg rheoli coetiroedd o dorri coed drosodd a throsodd ar eu gwaelod gan eu galluogi i aildyfu er mwyn darparu cyflenwad cynaliadwy o bren.

Ynghyd ag adnewyddu’r goedlan, ymunodd gwirfoddolwyr o’r Brifysgol â gwirfoddolwyr lleol wrth osod gwrychoedd. Wrth reoli’r gwrychoedd drwy eu gosod, mae’r coed yn cael eu hannog i aildyfu. Mae hyn yn estyn eu bywyd, a bywyd y gwrych yn ei gyfanrwydd.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gwerth £3.75m. Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau (COAH), Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe.

Ei nod yw ailfeithrin sgiliau gweledig traddodiadol yn y ddinas, gan gynyddu bioamrywiaeth coetiroedd a chan gynnig amrywiaeth o gynefinoedd i fywyd gwyllt.

Cynhaliodd y prosiect 16 gweithdy ar adnewyddu coedlannau, gosod gwrychoedd a thorri pren, dan arweiniad Dr Alexander Langlands o Brifysgol Abertawe a Rheolwr Partneriaethau Cymunedol, Gareth Thomas. Cymerodd 187 o wirfoddolwyr ran, a chyfrannwyd cyfanswm o 263 awr gan wirfoddolwyr. Roedd 60 o wirfoddolwyr yn fyfyrwyr o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Roedd cyfranogwyr eraill yn cynnwys pedair ysgol leol a deg grŵp cymunedol, sy’n cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl, ffoaduriaid a phobl ifanc ddi-waith.

Lluniwyd y rhaglen gan fyfyrwyr Hanes a Threftadaeth Prifysgol Abertawe cyn mynd ati i’w hysbysebu’n lleol, helpu i reoli’r prosiectau gweithdai a chwarae rôl bwysig wrth eu cyflwyno.

Meddai Gareth Thomas, Rheolwr Partneriaethau Cymunedol :

“Mae’r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd timoedd o Brifysgol Abertawe yn ymuno â’r cyngor a’r gymuned leol. Mae’n bwysig iawn bod y Brifysgol yn cyd-lunio prosiectau â’r gymuned gan fod y Brifysgol yn rhan o’r gymuned honno.

Mae myfyrwyr gwirfoddoli wedi magu sgiliau gwych, megis adnewyddu bioamrywiaeth, gwaith pren pwrpasol, cadwraeth y coetiroedd ac ymchwil i’r safle.

Mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau y mae eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau gweithio ac mae pobl leol yn cael y cyfle i fod yn rhan o brosiectau gwych.   Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar flaen y gad yn y DU gyda’r bartneriaeth arloesol hon. Rydym ni’n cydgynhyrchu treftadaeth o ddifri ar y cyd â’r cyngor a grwpiau a phobl leol.”

Dywedodd y Contractwr Malcolm Edwards, a fu’n rhan o’r prosiect:

“Rydym yn sefydlu coedlan weithredol ac yn cysylltu rheoli coetiroedd cynaliadwy â safle diwydiannol helaeth. Rydym yn addysgu arferion treftadol, arferion cadw ac yn ceisio cyfuno hanes wrth wneud hynny.”

 

Rhannu'r stori