Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

“Canvas of rural childhood” gan Alik Kumar Raptan, sef un o brif enillwyr Cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2018 Prifysgol Abertawe.

Bydd arddangosfa o waith artistiaid blaenllaw Bangladeshaidd, sy'n tynnu ar brofiadau o dlodi gwledig yn y wlad, yn agor ym Mhrifysgol Abertawe ar 19 Rhagfyr.

Mae'n ffurfio rhan o brosiect a arweinir gan Abertawe sy'n anelu at leihau tlodi yn Bangladesh ac India drwy fynd i'r afael ag afiechydon mewn pysgod a rhywogaethau morol eraill sy'n rhan o ffordd o fyw nifer o gymunedau arfordirol a glan afon.

Mae'r prosiect, sef PACONDAA, yn bartneriaeth gydweithredol rhwng naw safle ymchwil yn India, y DU a Bangladesh, gan gynnwys Prifysgol Abertawe. Mae'r tîm yn gweithio gyda ffermwyr i nodi arfer gorau a lledaenu hyn drwy gymunedau ffermio.

Mae dysgu mwy am sut mae clefydau'n cychwyn yn ganolog i waith y tîm, a'r gobaith yw datblygu ffyrdd newydd o'u hatal yn y dyfodol. Mae nifer o glefydau yn cael effaith sylweddol pan gynyddir rhywogaethau cnwd, gan gynnwys pysgod a berdys, ar ddwyseddau uchel ac o dan amodau llawn straen.

Mae cynnwys cymunedau'n rhan hanfodol o brosiect PACONDAA a dyma sut gall celf chwarae rhan, gan helpu pobl i ddweud a rhannu eu straeon ac ysbrydoli pobl i hyrwyddo'r gwaith.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys peintiadau gan yr artist sy'n enwog yn rhyngwladol, Shaid Kabir yn ogystal â gweithiau celf gan Mustafa Jamil Akbar, Nayan Dey, Jinnatun Jannat, Bobita Akhter, Mahamudul Hasan. Gwnaethant weithio gyda rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn Bangladesh, gan eu helpu i fynegi eu straeon am dlodi gwledig. 

Mae'r gwaith celf sy’n cael ei arddangos yn cynnwys y paentiad “Canvas of rural childhood” gan Alik Kumar Raptan, sef un o brif enillwyr Cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2018 Prifysgol Abertawe. 

Caiff yr arddangosfa ei hagor ddydd Iau 19 Rhagfyr am 10am gan y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Martin Stringer yn adain orllewinol Adeilad Wallace ar Gampws Parc Singleton.

Meddai Dr Sergei Shubin o'r Coleg Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arwain prosiect PACONDAA:

"Mae'n wych gweld yr arddangosfa hon yn agor yn Abertawe, gan ddangos bywydau pobl yn Bangladesh sy'n bartneriaid yn yr ymchwil.

Mae ymarfer celf ac artistig yn rhan hollbwysig o'n gwaith gyda chymunedau. Gall defnyddio celf, yn hytrach nag iaith yn unig, helpu i roi hwb i'r dysgu ar bob ochr, yn ogystal â chwalu ystrydebau presennol am dlodi.

Ein nod cyffredinol yw annog cyfraniad, ysbrydoli ffyrdd newydd o feddwl ac annog pobl sydd wedi'u heithrio i raddau helaeth – sy'n anllythrennog fel arfer – i gymryd rhan yn y gwaith o lywio eu dyfodol."

Mae'r arddangosfa hon ar agor i staff a'r cyhoedd.

Rhannu'r stori