Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi penodi pennaeth Meddygaeth i Raddedigion newydd.

Mae’r Meddyg Teulu blaenllaw o Gymru, yr Athro Kamila Hawthorne MBE, wedi ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe fel Pennaeth dros dro newydd y rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion. 

Dywed yr Athro Hawthorne ei bod yn gyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth sydd ymhlith y 3 gorau yn y DU ac fel mam i ddau feddyg iau mae'n ymwybodol iawn o'r straen a'r pwysau y mae myfyrwyr meddygaeth yn ei deimlo heddiw. 

Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn dysgu myfyrwyr meddygaeth ers 25 mlynedd ac mae fy mhlant bellach yn feddygon iau felly mae gen i ddealltwriaeth ddofn o'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau y mae myfyrwyr meddygaeth yn eu profi yn yr oes sydd ohoni.” 

Mae'r Athro Hawthorne wedi bod yn feddyg teulu ers 31 mlynedd, ar ôl graddio'n wreiddiol o Brifysgol Rhydychen, ac mae hi wedi gweithio yn Nottingham, Manceinion, Caerdydd ac Aberpennar. 

Ychwanegodd: “Y peth pwysicaf y gall myfyrwyr meddygaeth ei ddysgu yw'r grefft o wrando ar y cleifion maen nhw'n cwrdd â nhw a gofalu amdanynt gyda pharch a thosturi. 

"Mae'r berthynas rhwng claf a meddyg yn un arbennig iawn - yn seiliedig ar ffydd a pharch.  Rydym yn freintiedig iawn bod cleifion yn caniatáu i ni fod yn rhan o'u bywydau. 

“Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yw'r orau yng Nghymru ac mae'n anrhydedd i mi gael gweithio gyda thîm mor dalentog o glinigwyr ac academyddion ac rwy’n edrych ymlaen at helpu i addysgu ein cenhedlaeth nesaf o feddygon." 

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth: “Mae'n bleser gen i gyhoeddi mai'r Athro Kamila Hawthorne MBE yw Pennaeth dros dro newydd ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yma yn Abertawe. 

“Mae Kamila yn feddyg teulu profiadol, mae hi'n adnabyddus yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) ac mae ganddi gyfoeth o brofiad fel addysgwr, ymchwilydd ac arweinydd meddygol. 

 “Yn ogystal â bod yn gyn Is-gadeirydd y RCGP, yn Aelod a Etholwyd yn Genedlaethol o Gyngor RCGP, yn Arholwr i Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (MRCGP) ac yn Gomisiynydd Bevan, mae diddordebau ymchwil a gwaith clinigol yr Athro Hawthorne yn y maes anghydraddoldebau iechyd a mynediad i wasanaethau iechyd. 

“Mae hi hefyd wedi cael ei henwi’n Feddyg Teulu'r Flwyddyn ddwywaith am ei gwaith gyda chymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig a dyfarnwyd MBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2017 am wasanaethau i Ymarfer Cyffredinol.” 

Mae'r Athro Hawthorne yn cymryd lle'r Athro Andy Grant a roddodd gorau i'r swydd yr haf yma. 

Dywedodd yr Athro Lloyd: “Hoffwn groesawu Kamila a diolch i'r Athro Andy Grant, ei rhagflaenydd, am ei holl waith caled gyda'n rhaglen Meddygaeth i Raddedigion.

“Rydym yn ysgol feddygaeth fach ond arloesol gyda thua 100 o leoedd, felly mae ein myfyrwyr yn elwa o gyswllt helaeth â staff addysgu ac yn cael cyswllt â chleifion o'u tymor cyntaf." 

Ychwanegodd yr Athro Lloyd: “Mae ein myfyrwyr yn hynod lwcus i gael rhywun o safon yr Athro Hawthorne yn arwain eu haddysg feddygaeth.”

 

Rhannu'r stori