Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Car sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad traffig

Sicrhau tystiolaeth well gan dystion mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, sy’n rhan hanfodol o erlyn gyrwyr peryglus, yw nod astudiaeth ymchwil a gynhelir ar hyn o bryd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Heddlu De Cymru.

Mae arbenigwyr mewn adalw atgofion yn adran seicoleg y brifysgol yn profi holiadur a gwblheir gan dystion lle cafwyd y gwrthdrawiad yn hytrach nag ar ôl y digwyddiad.

Dengys astudiaethau y gall holiaduron fel y rhain gynyddu cywirdeb atgofion tystion am ddigwyddiadau bron 50%. Mae tystiolaeth well yn golygu ei bod hi’n fwy tebygol y caiff gyrwyr peryglus eu herlyn yn llwyddiannus.

Yn 2018, lladdwyd 1,770 o bobl ar ffyrdd Prydain, gyda 24,840 o bobl yn cael eu hanafu’n ddifrifol, ac roedd cyfanswm o 165,100 o anafedigion.

Bu gostyngiad o 45% mewn marwolaethau oherwydd gwrthdrawiadau ffyrdd rhwng 2005 a 2011 ond mae’r ffigurau wedi aros yn sefydlog ers hynny. Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dweud nad yw’n debygol y bydd y gyfradd farwolaeth yn gostwng ymhellach heb “ymyriadau sylweddol pellach”.

Mae tîm Prifysgol Abertawe’n credu y gallai’r holiadur newydd fod yn rhan o’r ateb o ran lleihau nifer y marwolaethau ymhellach.

Ar hyn o bryd, mae heddweision sy’n cyrraedd lleoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn wynebu llawer o ofynion gwahanol ar yr un pryd. Mae’n rhaid iddynt ofalu am anafedigion, sicrhau bod pobl eraill sy’n gysylltiedig â’r gwrthdrawiad yn ddiogel, ymgysylltu â gwasanaethau brys eraill ac ynysu’r ffordd neu ailgyfeirio cerbydau eraill.

Yn aml, gall fod yn amhosib iddynt gael datganiadau manwl gan dystion, yn ogystal â’r holl ddyletswyddau eraill hyn, yn lleoliad y gwrthdrawiad. Felly, y drefn bresennol yw bod heddweision yn nodi tystion, yn derbyn adroddiadau llafar byr, yn gwneud nodyn o fanylion cyswllt tystion ac yn anfon ffurflen atynt i’w chwblhau a’i dychwelyd.

Y broblem gyda’r dull hwn, fodd bynnag, yw’r hyn y mae arbenigwyr yn ei alw’n “colli gwybodaeth”. Mae’r oedi rhwng y digwyddiad ac ysgrifennu’r adroddiad yn golygu na fydd atgofion tystion mor eglur. Hefyd, gall atgofion gael eu hystumio gan wybodaeth gan dystion eraill, y cyfryngau cymdeithasol neu ffynonellau newyddion. Yn ogystal â hynny, bydd rhai tystion ar goll oherwydd ni fydd yn bosib cysylltu â hwy neu ni fyddant yn ymateb.

 Y canlyniad yw nad yw rhai erlyniadau’n mynd rhagddynt neu maent yn chwalu.

Mae’r holiadur newydd, o’r enw “cyfweliad hunanarweiniedig”, wedi ei ddylunio’n benodol ar gyfer gwrthdrawiadau traffig ffyrdd. Fe’i defnyddir i gasglu adroddiadau manwl gan dystion pan fyddant yn lleoliad y gwrthdrawiad. Yn hollbwysig, gellir ei gwblhau heb gymorth heddwas sy’n golygu eu bod yn rhydd i gyflawni eu dyletswyddau eraill.

Ariannwyd gan diogelwch ffyrdd Cymru, mae’r holiadur yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf i adalw atgofion er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth mor gywir â phosib.

Profwyd holiaduron tebyg eisoes yn y labordy mewn llawer o astudiaethau gwahanol, gan gynnwys mwy na 1,000 o gyfranogwyr. Ar draws yr astudiaethau hyn, dangosodd y bobl a ddefnyddiodd gyfweliadau hunanarweiniedig sgôr 49% yn uwch o ran cywirdeb y manylion a gofiwyd, o’u cymharu â phobl a ddefnyddiodd y dulliau presennol.

Mae’r treial cyfredol, fodd bynnag, yn cynnwys profi holiadur a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd traffig o dan amodau bywyd go iawn am y tro cyntaf. 

Bydd ymchwilwyr yn asesu maint ac ansawdd yr wybodaeth a gafwyd, cynnydd achosion drwy’r system gyfiawnder a faint o waith dilynol y bydd yn rhaid i heddweision ei wneud gyda thystion.

Bydd canlyniadau’r treial yn dechrau cael eu cyhoeddi o fis Gorffennaf 2020. Os byddant yn dangos bod yr holiadur wedi bod yn llwyddiannus, bydd ef ar gael am ddim i’r holl heddluoedd ei ddefnyddio.

Meddai Dr Ruth Horry o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe, sy’n arwain y prosiect: ”Ein nod yw gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb. Rydym yn gwybod bod gwybodaeth well gan dystion yn golygu y bydd erlyn gyrwyr peryglus yn llwyddiannus yn fwy tebygol o ddigwydd.

"Mae astudiaethau yn y labordy eisoes wedi dangos bod y cyfweliad hunanarweiniedig yn gwella cywirdeb yr wybodaeth y mae tystion yn ei chofio. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn siŵr ei fod yn gweithio o dan amodau bywyd go iawn; dyna pam mae’r treial ymchwil hwn, sy’n cynnwys gweithio gyda Heddlu De Cymru, mor bwysig.”

Defnyddiodd Dr Horry gyllid CHERISH-DE a secondiad i hyrwyddo ei phrosiect.

Darganfyddwch fwy am CHERISH-DE.

 

Rhannu'r stori