Ruth Horry

“Agorodd CHERISH y drws i gorff sy’n anodd iawn cael mynediad iddo.”

Defnyddiodd Dr Ruth Horry gyllid CHERISH-DE a secondiad i hyrwyddo ei phrosiect, ‘Gwella'r modd y cesglir cyfrifon tystion drwy dechnoleg ddigidol’. Nod Ruth oedd rhoi profiad dynol wrth galon datblygu prosesau digidol gyda’r heddlu. 

Defnyddiodd tîm prosiect CHERISH-DE eu cysylltiadau o fewn yr heddlu yma i alluogi Ruth i gael secondiad i Heddlu De Cymru i weithio ar welliannau digidol ar gyfer datganiadau tystion damweiniau traffig ar y ffordd. Aeth Ruth gyda’r heddlu i weld pa systemau oedd mewn grym eisoes a’r problemau real y maent yn eu hwynebu, i ragweld anghenion defnyddwyr yn fwy cyflawn. 

Ar ôl y secondiad, gwnaeth Ruth gais llwyddiannus am gyllid sbarduno CHERISH-DE ar gyfer prosiect mawr lle defnyddir technoleg ddigidol i wella ansawdd a maint gwybodaeth gan lygad-dystion mewn lleoliad trosedd neu ddigwyddiad.  

Y canlyniad oedd ffurflen Cyfweliad Hunanweinyddol ddigidol, ailwampiad sylweddol o’r modd y cesglir gwybodaeth ar ôl damwain ffordd, gan ganiatáu i’r llygad-dyst lenwi ffurflen eu hunain, gan ddarparu gymaint o fanylion â phosibl, yn hytrach nag adroddiad byr i swyddog neu gyfweliad dilynol.    

“Fe wnaeth CHERISH roi cymorth gwirioneddol i mi feithrin perthynas waith bositif gyda Heddlu De Cymru,” meddai Ruth. “Mae wedi pontio’r bwlch rhwng ysgolheictod ac ymarfer gweithredol. Maen nhw’n agored iawn i wella gweithdrefnau drwy ddefnyddio arloesedd ddigidol, sydd yn ddigost a heb ychwanegu amser at eu baich gwaith. Yn gyfnewid am hynny, gallaf ddefnyddio datrysiadau byd go iawn i ateb y cwestiynau ymchwil yr wyf yn gweithio arnyn nhw.”

Mae’r prosiect wedi sicrhau Grant Diogelwch Ffordd o £77,000, a fydd yn talu am gostau pellach am Gynorthwyydd Ymchwil i ddadansoddi’r data a fydd yn deillio o’r treial hwn.