Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Menyw yn cymryd rhan yn Hopewalk i godi arian at elusen

Bydd Gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe'n cynnal taith gerdded tair milltir ar y traeth i godi arian ac i gynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

Caiff HOPEWALK - er budd yr elusen atal hunanladdiad, Papyrus - ei gynnal am y tro cyntaf yn Abertawe ar ddydd Sul, 20 Hydref.

Bydd Papyrus yn cynyddu ymwybyddiaeth i gefnogi'r gwaith sy'n achub bywydau maent yn ei ddarparu i bobl ifanc yn y gymuned.

 Mae hyn yn cynnwys cyngor cyfrinachol i bobl ifanc a chynnwys cymunedau mewn prosiectau hunanladdiad, megis HOPEWALK.

 Dywedodd Cynghorydd Lles y Brifysgol, Carl Ely, a yrrodd y syniad i Abertawe gynnal y daith gerdded: "Hunanladdiad yw'r achos marwolaeth mwyaf cyffredin ymhlith pobl ifanc o dan 35 oed yn y Deyrnas Gyfunol.

 "Mae Gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe'n ymwybodol iawn o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, a all eu gadael yn teimlo'n agored i niwed, yn unig, yn emosiynol, yn ofnus ac yn hunanladdol.

 "Ein nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc ac nad oes angen i unrhyw un fynd drwy hyn ar eu pen eu hunain."

Ychwanegodd Jessica Hill, o Papyrus: "Mae HOPEWALK yn gyfle gwych i godi arian ar gyfer atal hunanladdiad, a fydd yn achub bywydau, a hefyd i helpu #ShatterTheStigma ynghylch meddwl am hunanladdiad.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ddod â choffa a gobaith i'w campws."

Mae'r daith gerdded, sy'n dechrau am ganol dydd, yn mynd i Blackpill ac yn ôl. Bydd yn dechrau ac yn gorffen yn The Secret Beach Bar and Kitchen, Heol y Mwmbwls, Abertawe SA2 0AY.

I gymryd rhan, cofrestrwch cyn y digwyddiad drwy'r dudalen JustGiving: www.justgiving.com/fundraising/swanseaunihopewalk.

Caiff pawb sy'n cofrestru eu cynnwys mewn raffl yn awtomatig. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Carl Ely.

Rhannu'r stori