Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Yn llun yn y gynhadledd mae (o'r chwith) Paul Joseph, darlithydd mewn Cyfraith a Moeseg Gofal Iechyd, pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yr Athro Ceri Phillips, Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Cofrestrydd Prifysgol Abertawe Andrew Rhodes a Chantal P

Ymgasglodd academyddion, myfyrwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol i fynd i’r afael â rhai o faterion moesegol mwyaf dybryd heddiw mewn cynhadledd arbennig ym Mhrifysgol Abertawe.

Fe'i cynhaliwyd i nodi Diwrnod Biofoeseg y Byd, ac roedd y digwyddiad yn cynnwys rhaglen amrywiol o bynciau ar amrywiaeth o themâu amserol gan gynnwys iechyd meddwl, gofal mamolaeth, newid yn yr hinsawdd ac amrywiaeth ddiwylliannol. 

Biofoeseg yw'r astudiaeth o foeseg ddadleuol nodweddiadol a ddaw yn sgil datblygiadau mewn bioleg a meddygaeth a chynhelir y diwrnod ymwybyddiaeth fyd-eang a drefnir gan UNESCO yn flynyddol i dynnu sylw at y materion anodd hyn. 

Roedd Chantal Patel Prifysgol Abertawe, un o Gadeiryddion Unedau rhwydwaith byd-eang ar gyfer UNESCO Biofoeseg, yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad a gynhaliwyd ar gampws Parc Singleton am y tro cyntaf. 

Meddai: “Rydym yn amlwg yn dechrau ar gyfnod lle mae datblygiadau meddygol a newidiadau yn y byd yn awgrymu bod angen i ni feddwl yn fwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud a'r hyn y dylem ei wneud ochr yn ochr â rheoli penderfyniadau problemus cyfredol ar fywyd ac iechyd pobl. 

“Fel Cadeirydd Uned, fy rôl i yw hyrwyddo gwaith UNESCO a lledaenu neges pwysigrwydd biofoeseg.” 

Roedd y digwyddiad un- dydd yn ddim ond un o gannoedd a gynhaliwyd ledled y byd i ddod ag amrywiaeth o bobl ynghyd i archwilio heriau a chyfyng-gyngor amrywiaeth ddiwylliannol. 

Mynychodd nifer fawr o bartïon â diddordeb, gan gynnwys myfyrwyr, academyddion, gweithredwyr cymdeithasol a gwleidyddion gan gynnwys Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Dafydd. 

Ar wahân i weithdai a gyflwynwyd gan brif siaradwyr, roedd y diwrnod yn cynnwys celf, barddoniaeth, cerddoriaeth a dawns a bwyd i adlewyrchu themâu amlddiwylliannol. 

Dywedodd Mrs Patel, sy’n bennaeth Astudiaethau Rhyngbroffesiynol yng Ngholeg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol, ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad a’r pynciau a drafodir yn cael effaith barhaus ar bawb a wnaeth mynychu. 

“Mae biofoeseg yn bwysig yn y byd sy'n gyflym newid. Yn ddiweddar gwelsom bryderon a godwyd ynghylch newid yn yr hinsawdd ac mae'r angen i fynd i'r afael â'r materion hynny a'u gwneud yn iawn ble nad yw efallai’n bosibl cael cytundeb llwyr ynghylch sut y dylem fyw ein bywydau yn hanfodol,” meddai. 

“Gobeithio bod y gynhadledd wedi helpu i ledaenu’r neges o bwysigrwydd biofoeseg yn y byd plwraliaethol hwn yn ogystal ag annog cydweithrediadau ymchwil yn y dyfodol â phartïon eraill sydd â diddordeb.”

Rhannu'r stori