Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Pier Luc Dupont

Dr Pier-Luc Dupont Picard

Darlithydd Gwleidyddiaeth Hunaniaeth, Politics, Philosophy and International Relations

Cyfeiriad ebost

028
Llawr Gwaelod
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Pier-Luc Dupont yn Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Hunaniaeth ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Wleidyddiaeth Gymharol a Pholisi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae e'n ysgolhaig rhyngddisgyblaethol ym meysydd hiliaeth, amrywiaeth a hawliau dynol, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cyflogaeth ac addysg fel meysydd cymdeithasol a gwleidyddol. Mae ei waith yn cael ei ysgogi'n bennaf gan awydd i ddadorchuddio ffynonellau sefydliadol o anghydraddoldebau hiliol ac anghydraddoldebau eraill, yn ogystal â damcaniaethu camau cyfreithiol a gwleidyddol tuag at gyfiawnder cymdeithasol. Cyhoeddwyd ei waith ymchwil mewn amryw gasgliadau ar y cyd a chyfnodolion a nodir ym mynegeion Scopus megis Ethnic and Racial Studies, Identities:   Global Studies in Culture and Power, Journal of Muslims in Europe, Crossings: Journal of Migration and Culture, The Sociological Review, and Nordic Journal of Human Rights. Mae ei lyfr newydd, Anti-Racism, Multiculturalism and Human Rights, dan gontract gyda Palgrave.

Mae gan Pier-Luc rôl Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bryste, lle mae wedi gweithio ar brosiectau ar raddfa fawr sy'n archwilio cyfiawnder o safbwynt ymfudwyr a lleiafrifoedd (prosiect ETHOS Horizon 2020, 2017-2019), ymagweddau polisi at amrywiaeth ddiwylliannol (prosiect PLURISPACE HERA, 2020-22), ac ysgogwyr arwahanu a chymysgu ethnig (prosiect Shared Spaces yr ESRC, 2022-23). Archwiliodd ei ymchwil ddoethurol, a gynhaliwyd yn Sefydliad Hawliau Dynol Prifysgol Valencia ac a gefnogwyd gan ysgoloriaeth FPU pedair blynedd gan Weinyddiaeth Addysg Sbaen, y rhyngweithio rhwng hawliau cydraddoldeb a gydnabyddir yn rhyngwladol, polisïau cyhoeddus a hiliaeth yn y cyd-destun Ewropeaidd.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwleidyddiaeth hil, ethnigrwydd, crefydd, rhyw, rhywioldeb, dosbarth, anabledd ac oedran
  • Polisi gwrth-wahaniaethu
  • Anghydraddoldebau cyflogaeth ac addysg
  • Actifiaeth ar lawr gwlad
  • Cyfraith a sefydliadau hawliau dynol
  • Amlddiwylliannaeth
  • Dulliau Ansoddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Cydweithrediadau

Mae Pier-Luc yn cydweithio'n aml â'r Ganolfan Astudiaethau Ethnigrwydd a Dinasyddiaeth, dan arweiniad yr Athro Tariq Modood ym Mhrifysgol Bryste a'r Ganolfan Rhyngweithiadau Cymdeithasol a Chysylltiadau Rhyng-grŵp (OxInteract), dan arweiniad yr Athro Shelley McKeown Jones ym Mhrifysgol Rhydychen.