Trosolwg
Mae John Spurr yn fwyaf adnabyddus fel hanesydd ar gyfer Lloegr yr ail ganrif ar bymtheg sydd ag arbenigedd yn hanes crefydd a materion diwylliannol ehangach. Fodd bynnag, mae ei ddiddordebau ymchwil ac addysgu bellach yn cwmpasu sawl gwlad a chyfnod hanesyddol: mae gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr treftadaeth a haneswyr Cymru, er enghraifft, wedi cyfoethogi ei ddealltwriaeth o gymuned a hunaniaeth; mae addysgu llenyddiaeth gyfoes wedi dyfnhau ei wybodaeth am y diwydiannau diwylliannol.
Mae John Spurr wedi ysgrifennu a golygu nifer o lyfrau a thestunau, wedi cyhoeddi erthyglau lu, ac wedi goruchwylio myfyrwyr PhD ar bynciau mor amrywiol ag esgobion a diwinyddiaeth yr Adferiad, llythyru gan fenywod, cysegrfeydd sanctaidd yng Nghymru, a 'stwff' yn Lloegr y Cyfnod Modern Cynnar. Y ffordd orau o ddisgrifio ei brif ddiddordeb yw 'sut roedd pobl yn gwneud pethau gyda geiriau’: mae prosiectau cyfredol yn cynnwys astudiaethau o lwon a rhegi a hiwmor yr ail ganrif ar bymtheg.
Ar ôl astudiaethau israddedig, D.Phil., a Chymrodoriaeth Ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig yn Neuadd Sant Edmund, Rhydychen, ymunodd yr Athro Spurr â Phrifysgol Abertawe ym 1990. Bu'n Bennaeth yr Adran Hanes (2005-8), Pennaeth Ysgol y Dyniaethau (2008-9), a Phennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau (2009-20).
Gwasanaethodd yr Athro Spurr ar banel hanes Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac yna ei Goleg Adolygu Cymheiriaid a'i Banel Adolygu Strategol am flynyddoedd lawer. Mae wedi arholi dros 20 o gymwysterau doethuriaeth ac wedi bod yn arholwr allanol mewn nifer o brifysgolion ym Mhrydain.