Trosolwg
Darlithydd Hanes Ewrop yr Ugeinfed Ganrif yw Imogen Dobie. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gymorth dyngarol a'i gysylltiad â mudo gorfodol ac arferion gwladwriaethau ffiniol. Mae'n ymchwilio i sut mae asiantaethau cymorth yn hanesyddol wedi ymateb i symudiad ffoaduriaid a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli, gan ofyn beth mae hyn yn ein haddysgu am bolisi noddfa a mewnfudo ac egwyddorion a gwleidyddiaeth cymorth mewn argyfwng.
Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, cwblhaodd Imogen ei DPhil ym Mhrifysgol Rhydychen yng Nghanolfan Astudiaethau Ffoaduriaid ac roedd hi hefyd yn uwch-ysgolhaig yng Ngholeg Lincoln. Mae ganddi MSc mewn Astudiaethau Ffoaduriaid a Mudo Gorfodol, hefyd o Brifysgol Rhydychen. Yn 2022, roedd Imogen yn ymchwilydd gwadd ym Mhrifysgol Yale ac mae hi hefyd wedi gweithio gyda'r sector dyngarol ar brosiectau sy'n defnyddio hanes i gyfeirio llunio polisïau'r presennol.
Mae gwaith ymchwil Imogen wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o gyfnodolion ysgolheigaidd a adolygir gan gymheiriaid, gan gynnwys European Review of History a Humanity. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ei llyfr cyntaf, gyda'r teitl dros dro Rocking the Boat: the Provision of Humanitarian Aid at Sea.