aerial
Dr Jane Gatley

Dr Jane Gatley

Darlithydd mewn Addysg, Education and Childhood Studies

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Jane Gatley yn athronydd addysg sydd â diddordebau mewn nodau addysg, y cwricwlwm, gwerth athroniaeth, ac addysgu athroniaeth mewn ysgolion. Dyfarnwyd ei PhD iddi gan Brifysgol Birmingham a bu'n gweithio yno fel Cymrawd Ôl-ddoethur y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Cyn hyn, bu'n gweithio fel athrawes ysgol uwchradd yn Lloegr am saith mlynedd. Bydd llyfr cyntaf Jane 'Why Teach Philosophy in Schools' yn cael ei gyhoeddi yn 2023 gyda Bloomsbury. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio ar brosiect rhyngddisgyblaethol sy'n dod ag athronwyr ac arbenigwyr addysg ynghyd i ystyried rôl athroniaeth fel dull ymchwil ar gyfer astudiaethau addysgol. Ariannwyd hyn gan y Gymdeithas Astudiaethau Addysg. Yn y dyfodol, mae hi'n bwriadu gweithio ar hanes gwerth addysgol gwybodaeth. Mae'n aelod o'r Philosophy for Education Society of Great Britain, ac mae'n gyfrifol am gangen de Cymru a fydd yn cynnal cyfres o seminarau fydd yn dechrau yn TB2. Jane hefyd yw prif arholwr cwrs diploma athroniaeth y Fagloriaeth Ryngwladol.

Meysydd Arbenigedd

  • Athroniaeth Addysg
  • Cwricwlwm
  • Athroniaeth mewn Ysgolion
  • Nodau Addysg
  • Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Meta-athroniaeth
  • Epistemoleg Gymdeithasol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Is-raddedig:

Athroniaeth Addysg

Astudiaethau Cwricwlwm

Addysgeg

Meddwl Beirniadol

Ymchwil Prif Wobrau