An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Mr Geraint Evans

Mr Geraint Evans

Uwch-ddarlithydd, English Literature

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Geraint Evans yn addysgu llenyddiaeth fodern yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n aelod o'r Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru (CREW).

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys moderniaeth lenyddol, Llenyddiaeth Saesneg Cymru a hanes y llyfr ym Mhrydain ac mae’n canolbwyntio’n aml ar ieithoedd a diwylliannau Cymru a’r modd y maent yn rhyngweithio â Lloegr a diwylliant Seisnig rhyngwladol.

Hyfforddodd Geraint mewn theatr a pherfformiad yng Ngholeg Rose Bruford, Llundain, cyn astudio yng Ngholeg Birkbeck, Llundain, Prifysgol Cymru Abertawe, a Choleg Clare, Caergrawnt.  Cyn symud i Abertawe, bu Geraint yn addysgu llenyddiaeth Brydeinig a Gwyddelig fodern ym Mhrifysgol Sydney. 

Mae Geraint wedi cyhoeddi'n eang ym maes llenyddiaeth Lloegr a Chymru yn yr ugeinfed ganrif a hefyd ar hanes y llyfr ym Mhrydain, yn enwedig yn y cyfnod modern cynnar.   Mae'n gyd-olygydd  The Cambridge History of Welsh Literature, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt yn 2019. 

Meysydd Arbenigedd

  • Llenyddiaeth Saesneg ers 1890
  • Llenyddiaeth Saesneg Cymru
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Ffuglen Droseddol ers 1920
  • Hanes y llyfr ym Mhrydain
  • Hanes Cyhoeddi

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Llenyddiaeth Saesneg yr Ugeinfed Ganrif

Llenyddiaeth Saesneg Cymru

Moderniaeth Lenyddol

Barddoniaeth ers 1890

Ffuglen Droseddol ers 1920

Ymchwil