Trosolwg
Prif faes ymchwil Geraldine Lublin yw Pagatonia, ar ei ffurf gyfoes ac o safbwynt hanesyddol. Hi yw awdur Memoir and Identity in Welsh Patagonia: Voices from a settler community in Argentina (Gwasg Prifysgol Cymru, 2017), sydd yn archwilio'n feirniadol ddeunyddiau hunangofiannol a ysgrifennwyd gan ddisgynyddion y Cymry tua diwedd yr ugeinfed ganrif. O ganlyniad i'w ffocws cychwynnol ar safle 'arbennig’ y gymuned Gymraeg yn Chubut mewn perthynas â'r rhanbarth a gweddill yr Ariannin, datblygodd ei diddordeb yn nynameg ehangach y rhanbarth, gan gynnwys adeiladu cenedl yn yr Ariannin, poblogaethau brodorol a damcaniaeth wladychol ymsefydlwyr. Mae ei diddordebau ymchwil ehangach yn ymwneud â hunaniaethau Lladin America, adeiladu cenedl, pobloedd alltud a grwpiau trawswladol, rhyngddiwylliannaeth a dyniaethau digidol. Drwy ei hyfforddiant a’i hymarfer proffesiynol, mae hi hefyd wedi meithrin arbenigedd ym maes astudiaethau cyfieithu ac addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae Geraldine wedi’i hysbrydoli’n ddiweddar gan ddulliau Addysgeg Dad-dyfu [Degrowth] i ymgymryd â phrosiectau sydd yn cyfrannu at amlygu cydberthnasau rhwng yr argyfwng hinsawdd, anghydraddoldebau byd-eang a’r prif ddiwylliant economaidd sydd yn canolbwyntio ar dwf.
Geraldine yw Cyd-gyfarwyddwraig CEPSAM (Y Ganolfan Astudiaethau Cymharol Portiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America) ym Mhrifysgol Abertawe.