A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching out to the horizon.
Dr Gerard Clarke

Dr Gerard Clarke

Athro Cyswllt, Politics, Philosophy and International Relations

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513525

Cyfeiriad ebost

026
Llawr Gwaelod
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Athro Cysylltiol mewn Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol yn yr adran yw Gerard Clarke. Mae'n arbenigo yn y rhyngwyneb rhwng gwleidyddiaeth a datblygu rhyngwladol, ac yng ngwleidyddiaeth y De byd-eang. Mae llawer o'i waith ymchwil wedi bod ar natur cymdeithas sifil a sefydliadau cymdeithas sifil, yn enwedig sefydliadau anllywodraethol, mewn cyd-destunau gwledydd datblygol, gyda ffocws diweddar ar gymdeithas sifil fyd-eang. Yn ogystal, mae'n canolbwyntio ar bolisi ac ymarfer datblygu, gan gynnwys cymorth ar gyfer cymdeithas sifil ac ymagweddau at ddatblygu sy'n seiliedig ar hawliau . Mae hefyd yn cynnal ymchwil i ddatblygu mewn gwledydd a rhanbarthau penodol (yn enwedig yn Ynysoedd Philippines a De-ddwyrain Asia).

Graddiodd o Brifysgol Limerick, a chwblhau MSc (Econ) gyda Rhagoriaeth ym maes Llywodraeth Gymharol yn Ysgol Economeg Llundain. Ar ôl gweithio gyda Chymorth Cristnogol yn Llundain am ddwy flynedd, cwblhaodd PhD ar wleidyddiaeth Ynysoedd Philippines yn y School of Oriental and African Studies (SOAS) (Prifysgol Llundain), gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd i nifer o sefydliadau gan gynnwys yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, Banc y Byd a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, yn ogystal ag ar gyfer KPMG a nifer o gyrff anllywodraethol cenedlaethol a rhyngwladol, gan weithio mewn mwy nag 20 o wledydd. Ymunodd â'r adran a oedd yn rhagflaenydd i’r Adran Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Athroniaeth bresennol yn 2010, ac ers hynny, mae wedi gweithio ar brosiectau ymchwil a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig, Sefydliad  y Gymanwlad a Sefydliad Ymchwil yr Almaen. Mae'n aelod o Goleg Adolygu Cymheiriaid y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn Uwch-gymrawd o’r Academi Addysg Uwch, ac yn gyn-bennaeth yr adran. Yn 2009, roedd yn gyd-enillydd gwobr yr European Journal of Development Research.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol
  • Gwleidyddiaeth yn y De Byd-eang
  • Polisi datblygu rhyngwladol
  • Cymdeithas sifil a datblygu rhyngwladol
  • Hawliau dynol a datblygu rhyngwladol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol

Dulliau Datblygu sy'n Seiliedig ar Hawliau

Cymdeithas Sifil a Datblygu

Ymchwil Prif Wobrau