An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Francesca Rhydderch

Dr Francesca Rhydderch

Athro Cyswllt, English Literature

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
203
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Nofelydd ac awdur straeon byrion yw Francesca Rhydderch. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries y rhestr hir ar gyfer Gwobr Llyfr Cyntaf Gorau Clwb yr Awduron ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn Cymru. Hefyd cyrhaeddodd Francesca y rhestr fer ar gyfer Gwobr Straeon Byrion Genedlaethol y BBC am ei ffuglen fer ‘The Taxidermist’s Daughter’, a gafodd ei darlledu ar Radio 4. Ymhlith ei straeon a gyhoeddwyd yn ddiweddar y mae ‘The Opposite of Drowning’ (Comma Press, 2017), ‘Then We Both Fell’ (The Lonely Crowd, 2019) a ‘Runaway’ (Planet: The Welsh Internationalist, 2019).

Hefyd mae gan Francesca ddiddordeb golygyddol a beirniadol cryf yn Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg Cymru. Bu'n olygydd cysylltiol cylchgrawn Planet o 1998-1999, yn olygydd comisiynu Llyfrau Gomer o 2000-2002 ac yn olygydd y cylchgrawn llenyddol New Welsh Review o 2002-2008. Hefyd mae wedi golygu, cyd-olygu a chyfrannu at gyhoeddiadau gan gynnwys New Welsh Short Stories (Seren, gyda Penny Thomas, 2015) a Dat’s Love gan Leonora Brito (Parthian, Llyfrgell Cymru, 2017, rhagarweiniad) ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer Atodiad Llenyddol y Times.

Mae Francesca wedi bod yn Athro Cysylltiol Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ers 2015. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr gradd MA nodedig Abertawe mewn Ysgrifennu Creadigol.