A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea
Dr Ersin Hussein

Dr Ersin Hussein

Uwch-ddarlithydd, Classics
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Hanesydd yr henfyd yw Ersin y mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar hanes a diwylliant deunyddiau ffisegol Cyprus. Cafodd ei monograff cyntaf, Revaluing Roman Cyprus: Local Identity an Island in Antiquity, ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2021. Mae'r gwaith hwn yn hyrwyddo Cyprus fel ardal Rufeinig gyfoethog a gwobrwyol i'w hastudio oherwydd ei diwylliant a'i chymdeithas ddeinamig o dan deyrnasiad Rhufeinig a'i chyfranogiad yn yr Ymerodraeth ehangach, ond yn benodol oherwydd y ffyrdd y mae ei dinasoedd a'u pobl wedi cynnal a chyfleu eu cysylltiadau diwylliannol dwfn â thirweddau niferus ar draws y Canoldir.  Mae Ersin yn parhau i archwilio dehongliadau o Ynys Cyprus fel tirwedd go iawn a dychmygol. Mae hanes arteffactau Ynys Cyprus, a'u harddangos mewn amgueddfeydd ac ymatebion i Cyprus mewn celf weledol yn agweddau hollbwysig ar ei gwaith ymchwil ar dderbyniadau o hanes yr ynys. Mae hi hefyd yn ymchwilio i werth diwylliannol metelau mewn hynafiaeth, copr yn benodol - metel sy'n cael ei gysylltu’n agos â hunaniaeth Gypraidd, yn ogystal â hanes safleoedd mwyngloddio diwydiannol fel tirweddau treftadaeth. Mae Ersin ar hyn o bryd yn gweithio ar ei hail fonograff sy'n ymchwilio i'r cynhyrchiad a'r defnydd o fetelau yn Cyprus Ptolemaidd a Rhufeinig.

Mae'r rolau gweinyddol y mae Ersin yn ymgymryd â nhw'n cynnwys:

  • Cyd-sefydlwr a chyd-gyfarwyddwr y grŵp ymchwil OLCAP: Object and Landscape Centred Approaches to the Past Ceir rhagor o wybodaeth am nodau a gweithgareddau’r grŵp ymchwil rhyngddisgyblaethol hwn ar wefan
  • Cyfarwyddwr Rhaglen Israddedig

Meysydd Arbenigedd

  • Cyprus Hynafol, yn enwedig y cyfnod Rhufeinig
  • Derbyniadau o Gyprus a'r hunaniaeth Gypraidd, o'r cynfyd i'r cyfnod modern.
  • Ffurfio hunaniaeth leol yn nhaleithiau Rhufeinig
  • Mwyngloddio, meteleg a gwerth diwylliannol metelau
  • Yr economi hynafol
  • Epigraffeg Gr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

CLH150: Rome from Village to Empire.

CLH2005: Set in Stone? Inscribing and Writing in Antiquity.

CLH2007: Marbles, slaves and mines, oils, grains and wines: Roman economy and society. Gwyliwch fideo sy’n cyflwyno’r modiwlyma.

CLM108: Ancient Cyprus.

HHC100: Modiwl gwaith maes: The Past in its Place.

Cydweithrediadau