An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Emma Cavell

Dr Emma Cavell

Uwch-ddarlithydd, History

Cyfeiriad ebost

103
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n arbenigwr ym maes hanes cymdeithasol Prydain, yn enwedig Cymru a Lloegr, yn ystod cyfnod canol yr Oesoedd Canol (c.1000-1300). Rwy'n ymddiddori'n benodol yn nylanwad y cysylltiadau rhwng rhywedd, lleoliad a dosbarth ar weithredoedd a phrofiadau aelodau benywaidd teuluoedd blaenllaw'r Gororau cyn goresgyn Cymru ym 1282, a chan brofiadau ymgyfreithwyr benywaidd Iddewig yn Lloegr y canoloesoedd cyn yr Alltudiad (1290). Mae rhywfaint (ond nid y cyfan!) o'm gwaith diweddar wedi edrych ar ymgyfreitha ymysg menywod a rhyngweithio'r gwahanol systemau cyfreithiol yn rhanbarth y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac ar fenywod Iddewig gerbron y llysoedd seciwlar yn Lloegr yn y drydedd ganrif ar ddeg. Mae fy nghyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys erthyglau yn English Historical Review, Law and History Review ac Anglo-Norman Studies, yn ogystal â thraethawd arobryn, wedi'i anelu at ddarllenwyr ehangach, yn Journal of the Mortimer History Society.

Yn ddiweddar cefais gyllid gan gynllun Grantiau Bach yr Academi Brydeinig/Leverhulme a Chymdeithas Hanes Iddewig Lloegr i ddechrau astudiaeth o ymgyfreithwyr Iddewig, yn ddynion a menywod, yn Lloegr cyn 1290 ac i archwilio cyd-destun gogledd-orllewin Ewrop hyd at y Pla Du

Rwy’n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol ac yn Cyd-Gyfarwyddwr MEMO, Canolfan Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar Abertawe. Rwyf hefyd yn ymgynghorydd hanesyddol ar brosiect mawr dan arweiniad Cadw i ailddatblygu Castell Caerffili fel atyniad treftadaeth mawr.

Meysydd Arbenigedd

  • Pendefigaethau a ffiniau yn Ynysoedd Prydain 1000-1300
  • Menywod a rhywedd ym Mhrydain ganoloesol
  • Rhoddion a nawdd mynachaidd menywod elit.
  • Cymru Ganoloesol a chysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr cyn 1300
  • Cyfraith ac ymgyfreitha yn y Canoloesoedd