Dr Joe Cable

Dr Joe Cable

Uwch Ddarlithydd Cysylltydiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Strategol (Addysgu Uwch), Media

Cyfeiriad ebost

105A
Llawr Cyntaf
Technium Digidol
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Jonathan â Phrifysgol Abertawe fel Uwch-ddarlithydd Cysylltiadau Cyhoeddus, Y Cyfryngau a Chyfathrebu yn 2022 ac maae’n addysgu ar draws amrywiaeth o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig gan ganolbwyntio'n bennaf ar gysylltiadau cyhoeddus, chwaraeon a newyddiaduriaeth.

Law yn llaw ag addysgu, dechreuodd Jonathan ei yrfa ymchwil yn wreiddiol trwy archwilio protest a'r defnydd ohono ar gyfer cyfathrebu gwleidyddol cyn troi'r ffocws i edrych yn fanylach ar fyd chwaraeon a'i berthynas gyda chymdeithas yn fwy eang. Mae ei waith yn cynnwys: y defnydd o abwydau clicio pêl-droed ar y cyfryngau cymdeithasol gan sefydliadau mawr y cyfryngau; dehongliadau o genedlaetholdeb ymysg dynion sydd â chredoau pêl-droed traddodiadol ('proper footabll men'); y portread papur newydd o bêl droediwr rhyngwladol  Lloegr Raheem Sterling o’i gymharu â hunan-gynrychiolaeth Sterling ar y cyfryngau cymdeithasol; ac ymatebion cefnogwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i hiliaeth amheus yn ystod gêm bêl-droed ac eraill. Oherwydd yr arbenigedd hwn, y mae wedi cyfrannu at gyfryngau megis The Athletic, Radio Swydd Gaerloyw’r BBC, a'r wefan bêl-droed Ffrengig, SoFoot. 

Mae Jonathan yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn Arholwr Allanol ym Mhrifysgol Caer, ac ym Mhrifysgol Edge Hill. Mae Jonathan yn aelod o Fwrdd Golygyddol y Football Collective sydd â'r nod o annog trafodaeth feirniadol am bêl-droed, ac mae'n aelod o Gymdeithas yr Ysgrifenwyr Pêl-droed. Mae e’ hefyd yn Olygydd Cyswllt ar gyfer Adran Chwaraeon y cyfnodolyn academaidd Cogent Social Sciences.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ym maes Chwaraeon
  • Newyddiaduriaeth Chwaraeon
  • Newyddiaduriaeth
  • Cyfathrebu Gwleidyddol
  • Y Cyfryngau Cymdeithasol
  • Ymgyrchu Gwleidyddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cyfathrebu Chwaraeon

Cyfathrebu Gwleidyddol

Cysylltiadau Cyhoeddus

Newyddiaduriaeth

Effaith chwaraeon ar gymdeithas

Ymchwil