A view of Singleton campus including Singleton park and the beach, with the sea stretching out to the horizon
A head shot of Dr Dion Curry

Dr Dion Curry

Athro Cyswllt, Politics, Philosophy and International Relations

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295628

Cyfeiriad ebost

010
Llawr Gwaelod
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dion Curry yn Athro Cysylltiol mewn Polisi Cyhoeddus yn yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol. Enillodd ei PhD mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Sheffield yn 2011, a chyn hynny astudiodd ym Mhrifysgol Saskatchewan a Phrifysgol Simon Fraser yng Nghanada, yn ogystal â Phrifysgol Canol Ewrop yn Budapest, Hwngari. Ar ôl ei PhD, bu'n gweithio yn Vilnius, Lithwania, i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus a Rheoli fel ymgynghorydd i'r Undeb Ewropeaidd ar faterion fel hawliau dynol, polisi cymdeithasol ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Yna, rhwng 2012-14 bu'n gweithio fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Erasmus Rotterdam (yr Iseldiroedd), gan archwilio dyfodol y sector cyhoeddus yn Ewrop fel rhan o brosiect FP7 yr Undeb Ewropeaidd ynghylch Cydlynu ar gyfer Cydlyniant yn Sector Cyhoeddus y Dyfodol (COCOPS). Mae ef wedi ennill cyllid o ffynonellau gwahanol gan gynnwys Cymrodoriaeth Unigol Marie Sklodowska Curie yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau Canada, ac Ysgoloriaeth Ymchwil Dramor llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Prif feysydd diddordeb Dion yw llywodraethu aml-lefel, cyfreithlondeb ac ymddiriedaeth wleidyddol, a diwygio'r sector cyhoeddus. Mae ef wedi cyhoeddi llyfr ynghylch ‘Network Approaches to Multi-Level Governance: Structures, Relations and Understanding Power Between Levels’ gyda chwmni Palgrave Macmillan, ac mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion gan gynnwys Parliamentary Affairs, Political Studies Review a Policy Studies. Yn ogystal, mae ef wedi ysgrifennu nifer o adroddiadau ymchwil, gwerthusiadau polisi ac erthyglau golygyddol i wahanol sefydliadau a ffynonellau yn Ewrop a Gogledd America, ac mae ef wedi cyflwyno papurau a darlithoedd gwadd mewn cynadleddau a phrifysgolion yng Nghanada a ledled Ewrop. Mae ef hefyd yn Gyfarwyddwr y Fenter ar gyfer Rheoli Cydweithio a Throsglwyddo Gwybodaeth rhwng Llunwyr Polisi ac Academyddion (IMPACKT) 

 

Meysydd Arbenigedd

  • Llywodraethu
  • Cyfreithlondeb gwleidyddol
  • Ymddiriedaeth
  • Diwygio'r sector cyhoeddus
  • Gwleidyddiaeth Prydain

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dion yw cydlynydd y rhaglen ar gyfer y radd MA mewn Polisi Cyhoeddus ac mae ef yn addysgu modiwlau yn y maes fel y Broses Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymharol mewn Systemau Cymhleth. Mae ef hefyd yn cyfrannu at fodiwlau israddedig ar ymddiriedaeth wleidyddol, ac yn cydlynu traethodau hir y cwrs MA. 

Ymchwil