An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Professor David Britton

Yr Athro David Britton

Athro, English Literature

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602564

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r dramodydd D.J.Britton yn Bennaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac yn Athro Dramäwriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Symudodd i Gymru o Awstralia, lle enillodd ei ddramâu llwyfan wobrau o fri gan gynnwys Plainsong (Cynhyrchiad y Flwyddyn Equity) a Cargo (Gwobr Aur Swan). Cafodd ei waith theatr diweddaraf Kamil and Francis (Theatr Richard Burton Caerdydd; 2019) ei ganmol gan Theatre Wales fel gwaith deinamig a chyfareddol. “Every truth runs parallel with the political ethnic and religious divisions that beset us today...(To) have served up these ’delights’ so deliciously tells us that there still may be some hope left."

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddrama pum pennod i'r BBC am y cyfansoddwr William Byrd, gyda David Suchet yn chwarae'r brif ran (i gael ei darlledu yng Ngwanwyn 2021).

Mae gwaith ysgrifennu D.J.Britton wedi cael ei ganmol yn eang. Cafodd ei fersiwn o Measure for Measure Shakespeare (Sherman Cymru) adolygiad pedair seren yn The Guardian ac mae gwaith llwyfan llwyddiannus arall diweddar yn  cynnwys y ddrama ddwyieithog Windsongs  of the Blessed Bay; The Wizard the Goat and the Man Who Won the War; Pembroke Arcadia; Old Peter’s Russian Tales, and Silverglass. 

Meysydd Arbenigedd

  • Ysgrifennu dramâu gwreiddiol ac addasu gweithiau ar gyfer y llwyfan
  • Drama radio/sain
  • Drama o ddigwyddiadau cyfredol
  • Addysgeg addysgu Ysgrifennu Creadigol
  • Drama o ffynonellau hanesyddol
  • Hanes theatr
  • Theatr Awstralia
  • Theatr Cymru

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yn athro a mentor profiadol iawn, mae'r Athro Britton yn arbenigo mewn helpu cyw awduron i ddod o hyd i'w llais unigryw eu hunain a'i ddatblygu. Yn ogystal ag addysgu yn y brifysgol ar bob lefel o Flwyddyn Gyntaf y BA i'w grŵp doethuriaeth, mae wedi cynnal gweithdai ledled y byd, o Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru Tŷ Newydd, i'r Writers' Laboratory yn Singapore. Mae'n addysgu ac yn mentora sgiliau ysgrifennu ar draws pob genre, Mae hyn wedi cynnwys cydweithio â phobl o sawl cefndir. Er enghraifft, mae wedi gweithio ar Ynysoedd Kiribati yn y Môr Tawel gyda'r grŵp theatr Micronesia Te Itibwerere, gan ddatblygu gwaith newydd sy'n berthnasol i ddiwylliant Ynysoedd, a chyda'r enwog Black Swan Theatre yn Awstralia.

Mae'r Athro Britton wedi addysgu mewn prifysgolion yn Singapore, Tsieina ac Awstralia ac ar hyn o bryd mae'n goruchwylio myfyrwyr doethuriaeth yn UDA ac Asia, yn ogystal ag ymchwilwyr yn y DU.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau