Swansea Singleton campus
Ben A Jones

Dr Benjamin A. Jones

Darlithydd Ieithyddiaeth Gymhwysol, Applied Linguistics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602456

Trosolwg

Mae Benjamin A. Jones yn ddarlithydd Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Ei brif ganolbwynt ymchwil ac addysgu yw tafodieitheg, amrywiaeth iaith ac arddulleg. Mae Benjamin hefyd yn ymddiddori mewn dadansoddi disgwrs ac astudiaethau'r cyfryngau.

Mae'n arbenigo mewn tafodiaith Saesneg Cymreig (h.y. tafodiaith(oedd) Saesneg yng Nghymru) ac mae wedi cyfrannu at ymchwil ar y ffordd y caiff ei chynrychioli'n arddulliadol mewn testunau ffuglen megis nofelau a ffilmiau, gan groesgyfeirio defnydd awduron o dafodiaith ag arolygon tafodiaith systematig yn ogystal ag archwilio pa agweddau ieithyddol sy'n gysylltiedig â siaradwyr Saesneg o Gymru mewn ffuglen. 

Yn ogystal, mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar ddisgrifio natur hanesyddol gyffredinol Saesneg yng Nghymru.

Mae gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd ac allgymorth Benjamin yn cynnwys gweithio gydag ysgolion a chymunedau lleol gan hyrwyddo maes a disgyblaeth ieithyddiaeth yn ogystal â datblygu gweithdai ar amrywio a newid iaith.  

Mae wedi llunio dau ddarn darllen ar Saesneg yng Nghymru gyda'r  Gower Glossary (2018) a ariannwyd gan Gyngor Abertawe a Phartneriaeth Tirwedd Gŵyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Ieithyddiaeth
  • Astudiaethau tafodiaith
  • Ieithyddiaeth hanesyddol
  • Ieithyddiaeth Gymdeithasegol
  • Dadansoddi Disgwrs
  • Arddulleg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Benjamin yn addysgu cyrsiau israddedig ar amrywiaeth iaith ac astudiaethau tafodiaith, ffonoleg ddisgrifiadol, dadansoddi disgwrs ac ieithyddiaeth y cyfryngau.

Cydweithrediadau