Mrs Angela Smith

Mrs Angela Smith

Uwch-ddarlithydd, Nursing

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
702
Seithfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton

Trosolwg

Gweithiodd Angela Smith yn y diwydiant bancio (HSBC) am flynyddoedd lawer mewn amrywiaeth o leoliadau ledled de Cymru. Cwblhaodd radd yn y gyfraith o 2000 i 2003 (LLB Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) yn Sefydliad Addysg Uwch Abertawe. Yna, cwblhaodd Angela radd TAR (Addysg Bellach) (Rhagoriaeth) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Angela'n meddu ar radd Meistr yn y Gyfraith (LLM) drwy ddysgu o bell ym Mhrifysgol Bryste yn ogystal â gradd Meistr (MA) mewn Moeseg ac Athroniaeth Gymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA). Cyn iddi ymuno â Phrifysgol Abertawe, addysgodd Angela am nifer o flynyddoedd drwy gyfrwng fideo gynadledda.

Mae Angela'n addysgu ar hyn o bryd ar amrywiaeth o fodiwlau yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae hyn yn cynnwys addysgu grwpiau mawr o fyfyrwyr israddedig (e.e. Nyrsys, Parafeddygon, Osteopathiaid, Meddygon, Cymdeithion Meddygol, Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol) ar amrywiaeth o bynciau cyfreithiol a moesegol (e.e. y Gyfraith ar gydsyniad, y gyfraith ar Gyfrinachedd, Cydraddoldeb, Egwyddorion moeseg meddygol a Dweud y gwir) ond hefyd gyfrannu at diwtorialau gwaith grwpiau bach ar y pynciau hyn. Mae ei rôl fel darlithydd hefyd yn cynnwys addysgu myfyrwyr ôl-raddedig sy'n astudio ar gyfer eu graddau Meistr. Mae Angela'n cyfrannu'n weithredol at ddarparu diwrnodau addysgu ar gyfer staff nyrsio cymwys sy'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd  Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd  Hywel Dda ar amrywiaeth o bynciau (Dogfennaeth, Deddf Galluedd Meddyliol, Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid). Mae marcio arholiadau ac aseiniadau drwy gydol y flwyddyn academaidd hefyd yn rhan o rôl Angela.

Mae Angela hefyd yn Bennaeth y Gyfadran ar gyfer Uniondeb Ymchwil, Moeseg a Llywodraethu ac mae hi hefyd yn gweithio fel Swyddog Uniondeb Academaidd yn y Gyfadran. O ran ymchwil, prif feysydd diddordeb Angela yw'r Gyfraith ac Atgenhedlu, Gorchmynion Na Cheisir Dadebru a Galluedd Meddyliol. Mae hi wedi cyhoeddi gwaith ar Gydsyniad yn ogystal ag ysgrifennu dwy bennod mewn gwerslyfr ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cyhoeddiadau SAGE) ar y cyd â darlithwyr eraill yn y Brifysgol.

Meysydd Arbenigedd

  • Y Gyfraith ar Gydsyniad
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Y Gyfraith ar Gyfrinachedd
  • Esgeulustod clinigol
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Y Gyfraith a Moeseg o ran y Gyfraith Feddygol 

Ymchwil