Croeso i Saesneg / TESOL / Ieithyddiaeth Gymhwysol
Mae ein rhaglenni gradd yn edrych ar ffyrdd o ddadansoddi gwybodaeth iaith a defnyddio iaith ar draws cyd-destunau ac amser. Rydym yn edrych ar:
- sut defnyddir iaith i gyfathrebu mewn bywyd pob dydd, gan gynnwys mewn gwahanol gyd-destunau;
- sut mae iaith wedi datblygu dros amser;
- sut rydym yn dysgu ein hiaith gyntaf a ieithoedd dilynol;
- sut mae iaith yn gweithredu mewn cyd-destunau dwyieithog;
- sut rydym yn cynhyrchu ac yn deall iaith mewn amser go iawn; a
- sut mae'r system iaith sylfaenol yn gweithio ar gyfer seiniau a gramadeg.
Mae a wnelo ein haddysgu â materion byd go iawn sy'n cael effeithiau allweddol ar unigolion a chymunedau. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio iaith i ddarbwyllo a chamarwain (yn enwedig yn y cyfryngau cymdeithasol); effaith tafodiaith ac acen ar hunaniaeth; her dysgu neu addysgu ieithoedd newydd.
Yn yr Adran TESOL, rydym hefyd yn ystyried heriau dysgu ac addysgu Saesneg fel iaith newydd, gan gynnwys:
- sut y defnyddir gwahanol ddulliau i addysgu iaith;
- sut mae plant yn dysgu iaith ychwanegol;
- sut mae damcaniaethau caffael ail iaith yn ymwneud ag addysgu;
- sut mae ymchwil presennol i addysgu Saesneg yn llywio ymarfer.
Mae'r cyfleoedd a gynigir i fyfyrwyr ar ein graddau BA yn cynnwys cyfle i ennill cymhwyster addysgu proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol (CELTA Caergrawnt) a chyfle i dreulio semester neu flwyddyn yn astudio dramor.
Dyma beth sydd gan ein myfyrwyr a'n graddedigion i'w ddweud.