Iechyd a Lles a Gwyddor Data : Ysgoloriaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn yn llwybr Iechyd a Lles a Gwyddor Data Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC (RS887)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Y meysydd pwnc: Llwybr Iechyd a Lles a Gwyddor Data Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC
Dyddiadau dechrau'r prosiect:1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Efallai y bydd y cynrychiolydd ar gyfer y llwybr yn Abertawe, Dr Arron Lacey, a.s.lacey@swansea.ac.uk, yn gallu eich cynghori.
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Iechyd a Lles a Gwyddor Data
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae'r llwybr yn cyfuno dulliau arsylwi, disgrifiadol, ac ar sail treialon â setiau data poblogaeth ar raddfa fawr i ddarparu tystiolaeth am heriau iechyd mwyaf dybryd ein cymdeithas. Mae ymchwil yn llywio prosesau llunio polisïau ar sail tystiolaeth i gynorthwyo pobl i ddewis ffyrdd iach o fyw a/neu i fyw'n well gyda salwch ac anabledd. Yn fwy penodol, mae'n archwilio'r amgylchedd adeiledig a chymdeithasol ac effaith y rhain ar ganlyniadau iechyd a/neu gymdeithasol niferus. Er enghraifft, gall prosiect ymwneud â'r amgylchedd tai neu deithio i'r ysgol ac ymchwilio i'r effaith ar anafiadau, iechyd meddwl a deilliannau addysgol; neu ddemograffeg newidiol o ran heneiddio a maint teuluoedd mewn perthynas ag epidemioleg cyflyrau iechyd cronig â'r nod o fynd i'r afael â phroblem ddybryd 'y bwlch gofal'. Gall prosiectau ddefnyddio amrywiaeth o fethodolegau, o arsylwi i fodelu cyfrifiadol ar lefel poblogaeth. Mae prosiectau o'r fath a'r dulliau cysylltiedig yn bosib drwy gysylltu data gweinyddol ac iechyd, gan gynyddu'r galw am ymchwilwyr doethurol â chymwysterau addas sy'n gallu defnyddio cymysgedd o ddulliau i ddatrys problemau gwyddor gymdeithasol cymhleth.
Os bydd angen i chi ddefnyddio data o Fanc Data SAIL yn eich ymchwil, rhaid i chi gofrestru eich prosiect arfaethedig gyda thîm cwmpasu SAIL yma: https://saildatabank.com/data/apply-to-work-with-the-data/
Rhaid gorffen yr ymarfer cwmpasu cyn i chi gyflwyno eich cais.
Cymhwyster
I gael cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI .
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26), ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Sut i Wneud Cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS887
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd, RS887 a
- theitl yr ysgoloriaeth
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais ar gyfer y rhaglen hon, bydd y system yn dangos hysbysiad rhybuddio ac yn eich rhwystro rhag cyflwyno cais newydd. Os bydd hyn yn digwydd:
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e. dewiswch Ionawr os nad yw Hydref ar gael).
- E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd RS perthnasol yr ysgoloriaeth, gan ofyn i ddiwygio'r dyddiad dechrau i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Yna bydd staff derbyn myfyrwyr yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa Preswylydd y DU (os yw'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
Asesu:
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu gyfnod rhan-amser cyfatebol).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael ei asesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.
Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.