Dyddiad cau: 22 Mawrth 2026

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

Goruchwylwyr:  Dr Sarah Crook, Dr Jacky Tyrie

Dull Astudio: Amser llawn neu ran-amser

Lleoliad Astudio: Prifysgol Abertawe

Cwrs: Hanes PhD

Disgrifiad o'r Prosiect:

Mae Cymru wedi arloesi o ran datgan a ffurfioli pwysigrwydd chwarae plant wrth lunio polisïau. Roedd Cymru ymhlith un o'r cenhedloedd cyntaf i fabwysiadu polisi chwarae cenedlaethol, er mwyn ymgorffori cyfleoedd i blant chwarae yn y gyfraith, ac mae chwarae wedi'i wreiddio yn neddfwriaeth flaenllaw'r wlad, sef Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Gan feddu ar ymagwedd hanesyddol, bydd yr ymchwilydd sy'n ymgymryd â’r prosiect hwn yn archwilio sut a phryd y dechreuodd Cymru ddatblygu agwedd mor nodweddiadol tuag at chwarae plant. Bydd y myfyriwr yn archwilio hanes plentyndod yng Nghymru ar ôl y rhyfel er mwyn asesu a oedd y pwyslais ar chwarae a ddaeth i'r amlwg ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain yn cynrychioli parhad neu gyfnod o ymdorri yn y dychymyg cenedlaethol. Bydd hefyd yn archwilio hanes mwy diweddar er mwyn deall sut mae syniadau am blentyndod a chwarae wedi cael eu cysylltu â syniadau am les, iechyd a hunaniaeth genedlaethol Gymreig ers datganoli.  

Mae'r prosiect, a arweinir gan y myfyriwr doethurol, yn gofyn: a oes hanes chwarae sy'n nodweddiadol Gymreig, a sut mae'n gysylltiedig â hanesion ehangach iechyd, lleoedd cyhoeddus, dylunio trefol, gofal plant, cymuned, risg, tai, a datblygiad plant yng Nghymru? Sut mae chwarae wedi cael ei ddefnyddio yn yr amgylchedd gwleidyddol, a sut mae chwarae wedi cael ei ddefnyddio i lywio a mynegi syniadau am hunaniaeth ddiwylliannol, gwerthoedd a rennir, a chymeriad cenedlaethol yn y gorffennol diweddar? Yn ogystal, roedd polisi chwarae 2002 wedi cael ei ategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (a gadarnhawyd gan y DU yn 1991), sy'n ysgogi'r ymchwil hon i ystyried sut mae polisi Cymru wedi mapio newidiadau byd-eang wrth feddwl am hawliau plant. Yn hanesyddol, mae Cymru hefyd wedi bod yn hwb gweithgynhyrchu teganau, gyda miloedd o weithwyr yn gweithio mewn ffatrïoedd yn Nhrefnant, Pen-y-bont ar Ogwr, Fforestfach a thu hwnt. Roedd brandiau blaenllaw yn rhan o'r stori hon - gan gynnwys Lego, a oedd a ffatri yn Wrecsam, a Mettoy. Agorodd safle Mettoy yn Abertawe ym 1949. Mae hwn yn datgelu cysylltiad nad yw wedi ei gydnabod yn eang rhwng chwarae, cynhyrchu teganau, a gorffennol diwydiannol Cymru.  

Yn ddiweddar, mae llunwyr polisi wedi galarnadu dros ddiffyg archwilio a haneseiddio llunio polisi yng Nghymru. Bydd yr ymchwilydd yn defnyddio archifau gwleidyddol ar-lein er mwyn mapio gwreiddiau gwleidyddol polisi 

chwarae, gan ddefnyddio deunyddiau'r Senedd i ddeall swyddogaeth gynhwysfawr chwarae yn nhirwedd wleidyddol fodern Cymru. Caiff hyn ei ategu gan gyfweliadau hanes llafar gyda llunwyr polisi, ymarferwyr ac ymgyrchwyr. Ond wrth edrych y tu hwnt i'r gorffennol mwy diweddar hwn, bydd y myfyriwr yn defnyddio papurau newydd i ddeall yr ymateb a gafwyd i bolisïau chwarae, yn ogystal â'r deunyddiau a gynhyrchir a lledaenwyd mewn cymunedau ymarferwyr - er enghraifft lleoliadau meithrin a blynyddoedd cynnar, ac ysgolion i fabanod ac ysgolion cynradd. Gwahoddir y myfyriwr i ddefnyddio gwrthrychau a gedwir gan Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru er mwyn annog cyfranogwyr hanes llafar i fyfyrio ar dechnolegau chwarae sy'n newid.  Mae'r prosiect yn cyfrannu at hanesyddiaeth plentyndod, hanes Cymru, hanes gwleidyddol a hanes cymdeithasol. Mae'n cysylltu ffiniau disgyblaethol, gan lywio gwaith astudiaethau plentyndod a blynyddoedd cynnar. 

Maes/meysydd astudio: Hanes Cymdeithasol, Hanes Gwleidyddol, Hanes Diwylliannol, Astudiaethau Plentyndod Cynnar, Hanes Cymru, Astudiaethau Plentyndod Cynnar

Gweminar i ymgeiswyr: 

Cynhelir gweminar i'r ymgeiswyr ar 3 Mawrth am 4pm. Dyma gyfle i drafod prosiect Lles a gofyn cwestiynau. I gofrestru am y gweminar, llenwch y ffurflen hon. https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/swansea/lles-q-a 

Cymhwyster

Ymgeiswyr y DU yn unig

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil Lles, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.

Mae Lles yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn am ein polisi iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau, yma.

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan Lles yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd).

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil) https://www.ukri.org/what-we-offer/developing-people-and-skills/find-studentships-and-doctoral-training/get-a-studentship-to-fund-your-doctorate/

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon:

Llawn Amser

Rhan Amser

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS936

2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)

  • Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
  • y Cod RS936, a
  • teitl yr ysgoloriaeth.
  • Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
  • Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
  • Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
  • Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis. 

* Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.

Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.   

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):

  • CV- Gall hyn fod ar ffurf naratif, gan ddangos sut rydych wedi ymgymryd â phrofiad, taith addysgol a/neu waith sy'n arddangos eich potensial
  • Datganiad sy'n nodi eich diddordeb yn y prosiect hwn, eich syniadau ar ei gyfer a'ch addasrwydd i ymgymryd ag ef (uchafswm o 2 dudalen)
  • Geirda academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr ofyn i ganolwyr a chynnwys y geirdaon gyda'u ceisiadau. Mae'n rhaid i'r geirda nodi cryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd
  • Cadarnhad cyflwyno ffurflen EDI
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol).
  • Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)

Asesu

Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan banel. 

Gall cyfweliadau gael eu cynnal wyneb yn wyneb, ond dylent hefyd fod ar gael dros Zoom/Teams ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n dymuno cymryd rhan yn y modd hwnnw.

Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ym mis Ebrill/Mai 2026

E-bostiwch Dr Sarah Crook gydag ymholiadau anffurfiol sy'n ymwneud â'r prosiect yn S.R.E.Crook@abertawe.ac.uk/PGR-Lles@abertawe.ac.uk

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol* – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.