Economeg: Ysgoloriaeth PhD Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (YGGCC) wedi'i hariannu'n llawn yn y llwybr Economeg (RS888)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Y meysydd pwnc: Llwybr Economeg Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC YR ESRC
Dyddiadau dechrau'r prosiect:1 Hydref 2026 (cofrestru ar agor o ganol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru YGGCC YR ESRC. Mae'n bosib y bydd Arweinydd y Llwybr sydd wedi'i leoli yn Abertawe, Dr Ansgar Wohlschlegel, a.u.m.wohlschlegel@abertawe.ac.uk, yn gallu rhoi cyngor i chi.
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD Economeg
Disgrifiad o'r Prosiect:
Yn y cyfnod presennol o heriau byd-eang, mae ymchwil o safon mewn Economeg yn bwysicach nag erioed. Mae'r llwybr yn cyfuno'r arbenigedd nodweddiadol a'r hanes blaenorol o ragoriaeth ymchwil mewn tri sefydliad - Caerdydd, Bangor ac Abertawe. Mae Adran Economeg Prifysgol Abertawe yn cyflawni ymchwil ragorol ym mhob maes Economeg, ond mae ganddi brofiad arbennig o gryf ym meysydd macro-economeg, micro-economeg gymhwysol, economeg ynni ac economeg ranbarthol. Mae hefyd yn un o bartneriaid allweddol Sefydliad Ymchwil a Data Economeg Cymru (WISERD) sy'n cynnwys sawl sefydliad). Ar ben hynny, mae'r adran yn gartref i'r Ganolfan ar gyfer Ymchwil mewn Macroeconomeg a Macro-Gyllid (CReMMF) a'r Ganolfan Microeconomeg Gymhwysol (CAM), sy'n dwyn ynghyd academyddion blaenllaw yn y meysydd hyn o bob cwr o'r DU a thu hwnt.
Mae'r llwybr yn cynnig amgylchedd ymchwil cyfoethog i'w fyfyrwyr ar draws y lleoliadau, gan gynnwys: cyflwyniadau mewn seminarau PhD; presenoldeb mewn gweithdai ymchwil rheolaidd yn y gyfadran, a chyflwyno yno; seminarau rheolaidd gan siaradwyr allanol; mynediad at ddigwyddiadau ymchwil; cynulliadau ymchwil Cymru gyfan a gynhelir yng nghanolfan gynadledda Prifysgol Cymru yn y Canolbarth; cynadleddau rhyngwladol mawr. Er enghraifft, yn ogystal â seminar ymchwil allanol wythnosol mewn Economeg yn Abertawe, mae CReMMF yn cynnal cyfres o seminarau ar-lein mewn Macro-economeg fel fforwm i drafod ag academyddion allanol sy'n gysylltiedig â'r Ganolfan.
Yn y llwybr ehangach, y tu hwnt i Abertawe, mae Bangor yn noddi'r Symposiwm Cyfrifeg a Chyllid Doethurol Rhyngwladol (ar y cyd â Phrifysgolion Leeds, Bradford, Strathclyde, Queensland, Salamanca a Bologna), ac mae Caerdydd yn cynnal Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol Cymru mewn Busnes/Rheoli ac Economeg, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr gyrfa gynnar gyflwyno eu gwaith i academyddion rhyngwladol blaenllaw mewn amgylchedd cefnogol ond heriol.
Byddwn yn annog ac yn hwyluso goruchwyliaeth ar y cyd ar draws sefydliadau pan fo'n briodol. Cefnogir gwaith meithrin carfan drwy gynhadledd ddoethurol flynyddol dan arweiniad myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys carfan lawn myfyrwyr y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol mewn Economeg yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi'u hariannu drwy ddulliau mewnol ac allanol eraill.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe .
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI .
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu a lwfans byw blynyddol di-dreth yn unol â chyfraddau isafswm UKRI (£20,780 ar hyn o bryd ar gyfer 2025/26).Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.wfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
Sut i Wneud Cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS888
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd, RS888 a
- theitl yr ysgoloriaeth
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd “Cais Wedi’i Gyflwyno” ac yn rhwystro cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw Hydref ar gael).
- Anfonwch e-bost at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Yna bydd staff derbyn yn diweddaru eich cais yn unol â hynny.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
I fyfyrwyr sy'n astudio am PhD mewn Economeg, bydd opsiwn ar gael hefyd i gwblhau gradd Meistr am ddwy flynedd wedi'i dilyn gan raglen PhD dwy flynedd a hanner o hyd (gan gynnwys lleoliad Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu) ond ni fydd hyn yn cael ei gynnig i bob myfyriwr o angenrheidrwydd.
Asesu:
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr (ysgolion gynnwys gwybodaeth am y cyfweliad yma e.e. rhoi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth rhan-amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser.
Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser).Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.