Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth YGGCC yr ESRC Economi Ddigidol a Chymdeithas – Llwybr Cyfrifiadureg 

Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (cofrestru ar agor o ganol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru YGGCC yr ESRC. Efallai y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Matt Roach, m.j.roach@abertawe.ac.uk , yn gallu rhoi cyngor i chi. 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cyfrifiadureg 

Disgrifiad o'r Prosiect: 
Mae'r llwybr hwn yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymgymryd â phrosiectau rhyngddisgyblaethol sy'n cynnwys elfennau o fethodolegau gwyddor gyfrifiadol yng nghyd-destun heriau gwyddor gymdeithasol gan rychwantu cylchoedd gorchwyl ESRC ac EPSRC Sefydliad Ymchwil y DU. Nod y llwybr hwn yw datblygu arbenigedd ym maes ymchwilio i ymddygiad dynol, gan gyfuno dulliau dadansoddol meintiol a digidol uwch, a'u cymhwyso i ddata a gynhyrchir drwy olion traed digidol, gydag ymchwil ansoddol i ryngweithio mewn mannau ar-lein. Dylai prosiectau gynnwys strategaethau sy'n amrywio o ddadansoddi postiadau yn y cyfryngau cymdeithasol i olrhain symudiadau yn oddefol drwy ddata o fesurydd cyflymu, a gwerthuso sut mae systemau cymdeithasol-dechnegol presennol a rhai sy'n datblygu yn ymateb i ryngweithiadau penodol rhwng pobl ac algorithmau ac yn dylanwadu arnynt. Ar ben hyn, mae prosiectau sy'n edrych ar sut mae'r awydd am ffyrdd newydd o fynegi anghenion economaidd a chymdeithasol yn gallu sbarduno datblygiadau mewn technoleg ddigidol a'u cymwysiadau yn addas hefyd. Mae meysydd craidd i brosiectau ganolbwyntio arnynt yn cynnwys: Problemau iechyd a gofal cymdeithasol; cymunedau cyfyngedig; busnes ac arloesi Seiberddiogelwch; a throseddu a diogelwch;  

Bydd myfyrwyr yn elwa o gael eu goruchwylio ar y cyd gan dimau amlddisgyblaethol mewn sefydliadau addysg uwch a rhyngddynt. Cefnogir y llwybr gan yr adrannau canlynol: Gwyddorau Cymdeithasol (Caerdydd); Cyfrifiadureg; Y Gyfraith (Abertawe, gyda chyllid gan Innovate UK ac NIHR) a chan y canolfannau hyn: y Ffowndri Gyfrifiadol; Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPIC yr EPSRC (Abertawe); Y Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol a'r HateLab (ill dau'n fuddsoddiadau data'r ESRC); a'r Sefydliad Trawsnewid Digidol (Caerdydd). Mae'n parhau â'r cydweithrediad llwyddiannus rhwng Caerdydd ac Abertawe yn DTP2.

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr  YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd yr UKRI.     

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler y Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu a lwfans byw blynyddol di-dreth yn unol â chyfraddau isafswm UKRI (£20,780 ar hyn o bryd ar gyfer 2025/26) ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

 Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon: Cwblhewch eich cais yma yn y Porth Dysgwr (hyperddolen) 

 https://learner.swansea.ac.uk/urd/sits.urd/run/siw_ipp_lgn.login?process=siw_ipp_app&code1=PL29XPF1&code2=0001 

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil perthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS886 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  
    • y côd RS886
    • theitl yr ysgoloriaeth   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 
  • Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd “Cais Wedi’i Gyflwyno” ac yn rhwystro cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn: 

  1. Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw Hydref ar gael). 
  2. E-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn am i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  3. Yna bydd staff derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hynny. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf 
  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe.  Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:    

Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel 

Hyd astudio:    

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth rhan-amser). 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser. 

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:    
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:   

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.