Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Llwybr Addysg Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC 

Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Efallai y bydd y cynrychiolydd ar gyfer y llwybr yn Abertawe, Dr Emily Lowthian, E.M.Lowthian@abertawe.ac.uk, yn gallu eich cynghori. 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Addysg 

Disgrifiad o'r prosiect: 
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein Hadran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn cynnwys ystod amrywiol o arbenigedd pwnc a methodolegol. Mae ein hadran yn arbenigo mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys meysydd: 

  • Anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn addysg 
  • Ymadawyr Gofal a myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd  
  • Ymgysylltiad a chyfranogiad rhieni  
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth addysg 
  • Technoleg a dylanwad digidol ar addysg  
  • Lleisiau a chyfranogiad plant  
  • Cwricwlwm ac asesu 
  • Chwarae 
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol 
  • Anifeiliaid mewn addysg 
  • Sylfeini athronyddol damcaniaeth ac ymarfer addysgol 

Mae ein staff yn arbenigwyr mewn ystod eang o fethodolegau ymchwil, gan gynnwys dulliau meintiol uwch, ymchwil weithredol cyfranogol, methodolegau creadigol arloesol, a thechnegau ymchwil ansoddol cadarn. 

Mae'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe yn croesawu ymgeiswyr sy'n awyddus i gychwyn ar brosiectau unigryw ac arloesol sydd â'r potensial i greu effaith yn y byd go iawn. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd, yn enwedig y rhai hynny sydd â phrofiad fel ymarferydd ym myd addysg.  

Cymhwyster

I gael cyllid ysgoloriaeth ymchwil YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.  

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.   

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26), ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon: 

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS889 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  
  • y Côd, RS889 
  • theitl yr ysgoloriaeth   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 
  • Yna lanlwythwch gopi o'ch ffurflen cais am Ysgoloriaeth YGGCC wedi'i chwblhau

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais ar gyfer y rhaglen hon, bydd y system yn dangos hysbysiad rhybuddio ac yn eich rhwystro rhag cyflwyno cais newydd. Os bydd hyn yn digwydd: 

  1. Cyflwynwch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e. dewiswch Ionawr os nad yw Hydref ar gael).  
  2. E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd RR yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn am newid y dyddiad dechrau i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  3. Yna bydd y staff derbyn myfyrwyr yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • WGSSS-Studentship-Application-Form-2025.docx  
  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • DDau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (pan fo’n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (pan fo’n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:   
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel  

Hyd astudio:   
Mae hyd y cyfnod astudio yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu gyfnod rhan-amser cyfatebol).     

Mae hyd y cyfnod  astudio yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.    

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis (neu gyfnod rhan-amser cyfatebol). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, ym meysydd polisi a busnes neu mewn sefydliadau cymdeithas sifil.    

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.