Meysydd Pwnc Amrywiol: Tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg uwchradd (tar) gyda chyllid statws athro cymwys
Dyddiad cau: Cyn gynted â phosib
Gwybodaeth Allweddol
Gallai graddedigion â graddau penodol fod yn gymwys i dderbyn cymhellion gwerth hyd at £20,000 os ydynt eisiau hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.
Y pynciau blaenoriaeth yw:
- Ffiseg
- Cemeg
- Mathemateg
- Cymraeg
- Cyfrifiadureg
- Ieithoedd Tramor Modern.
Am ragor o fanylion gweler Cymhellion Hyfforddiant Athrawon Llywodraeth Cymru.
Cymhwyster
Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) yn llawn amser neu'n rhan-amser gael arian i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod holl feini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr yn cael eu bodloni. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Cyllid TAR .
Cyllid
Gallai graddedigion sy'n dymuno astudio TAR mewn meysydd pwnc penodol fod yn gymwys am gymhellion hyfforddiant athrawon. Mae cymhellion hyfforddiant athrawon yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw’n werth hyd at £20,000 (gan ddibynnu ar y maes pwnc a’r dosbarthiad gradd/Meistr).
Sut i wneud cais
Gweler Cymhellion Hyfforddiant Athrawon Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.