Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Universidad de Alcalá de Henares yn ninas Alcalá de Henares yng Nghymuned Awtonomaidd Madrid, 30km i'r gogledd-ddwyrain o Fadrid. Mae gan y brifysgol dri champws ac, os byddwch yn dewis treulio cyfnod fel myfyriwr cyfnewid Sbaeneg neu Gyfieithu, cewch eich lleoli ar y Campws Hanesyddol.   Campws canolog y brifysgol yw hwn ac mae'n gartref i'r brif lyfrgell, y Ganolfan Ryngwladol Iaith Sbaeneg (Alcalingua) ac amrywiaeth o wasanaethau eraill i fyfyrwyr. Yn Alcalá, mae'r myfyrwyr naill ai'n byw mewn neuaddau preswyl neu'n rhentu llety preifat o fewn y gymuned leol (yn aml iawn, maent yn rhannu fflatiau gyda myfyrwyr eraill). Mae Alcalá yn gyfoeth o ddiwylliant Sbaeneg ac, os byddwch yn mynd yno fel myfyriwr cyfnewid, gwnewch yn siŵr eich bod yn blasu almendras garrapiñadas (candis cnau almon â siwgr drostynt) sy'n nodweddiadol o Alcalá (ynghyd â tapas wrth gwrs).