Myfrywyr yn astudio gyda'i gilydd

Os byddwch yn dewis astudio yn Université Catholique de l'Ouest (UCO) cewch eich lleoli ar y campws yn Angers, prifddinas Maine-et-Loire yn ardal ogledd-orllewinol Dyffryn Loire yn Ffrainc.  Mae gan UCO gampysau bywiog lle y caiff myfyrwyr gyfle i gyfarfod y tu allan i'r ystafell ddosbarth a darganfod a mwynhau natur gyfoethog ac amrywiol y boblogaeth myfyrwyr yn UCO. Mae bywyd cymunedol yn UCO yn cynnwys 24 o glybiau a sefydliadau diwylliannol a chwaraeon, a chynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ac uchafbwyntiau a oruchwylir gan y Swyddfa Ddiwylliannol drwy gydol y flwyddyn, fel y Joutes (cystadlaethau chwaraeon hamdden) a'r Cathocalypse (cyngerdd cerddorol electro-acwstig), felly mae digon o ffyrdd y gallwch gymryd rhan ym mywyd myfyriwr yn UCO.  Mae dewis o lety ar gael, yn amrywio o neuaddau preswyl y brifysgol i lety preifat yn y ddinas, a gall Gwasanaeth Llety UCO roi gwybod am yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.