Gan eich bod wedi dewis astudio gradd Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe, bydd blwyddyn dramor eisoes wedi’i hintegreiddio yn eich cwrs ac mae’n debygol y byddwch wedi meddwl yn ofalus am ba leoedd yr hoffech fynd iddynt a’r hyn yr hoffech ei wneud yn ystod trydedd flwyddyn eich cwrs. Ceir nifer o ddewisiadau i chi eu hystyried:

  1. Astudio mewn prifysgol bartner
  2. Cwblhau Swydd Cynorthwy-ydd Iaith y Cyngor Prydeinig
  3. Cwblhau lleoliad gwaith dramor


Ceir isod restr o’r prifysgolion partner ar gyfer pob adran iaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn Swydd Cynorthwy-ydd Addysgu neu Leoliad Gwaith yna bydd angen i chi hysbysu’ch Cydlynydd Academaidd yn y lle cyntaf. Gall y dewisiadau sydd ar gael i chi ddibynnu ar ffactorau allanol, megis cyfyngiadau teithio a'r niferoedd o lefydd prifysgolion partner.