Poster y digwyddiad a phortread o Shakespeare

Shakespeare a Chynrychiolaeth

Gwnaeth y Diwrnod Astudio Shakespeare hwn, dan arweiniad Dr Eoin Price (Prifysgol Abertawe), archwilio pwy a beth mae Shakespeare yn dewis ei bortreadu yn ei ddramâu, sut a pham mae'n dewis eu portreadu, a sut gallem ni bortreadu Shakespeare heddiw.

Bu'r sesiwn gyntaf, 'Performing Shakespeare' (10-12yh), yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth o ffyrdd y gellid perfformio dramâu Shakespeare. Gan dynnu ar arbenigedd actorion, aethom ati i ddangos sut y gall hyd yn oed dewisiadau dibwys o ran perfformiad gael effeithiau sylweddol ar ystyron dramâu Shakespeare. Roedd yr ail sesiwn, 'Diversifying Shakespeare' (1-2.30yh) yn cynnwys trafodaeth panel ehangach gydag academyddion ac ymarferwyr theatr, a ganolbwyntiodd ar sut i gynrychioli Shakespeare heddiw, gan drafod castio anhraddodiadol.

Yn ystod y dydd trafodwyd sawl testun sydd ym maes llafur yr arholiad Safon Uwch, gan gynnwys King Lear, Hamlet a The Tempest ond roedd y pynciau'n berthnasol y tu hwnt i'r testunau unigol a'r tu hwnt i Shakespeare.

Roedd y digwyddiadau hyn i ysgolion yn addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12 (a Blwyddyn 11 a fydd yn sefyll arholiadau Saesneg Safon Uwch a disgyblion Blwyddyn 13 a fydd yn astudio Saesneg yn y Brifysgol).

Ffotograff o Dr Eoin Price

Mae Dr Eoin Price yn Uwch-ddarlithydd yn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n arbenigo yng ngwaith Shakespeare a drama'r 16eg ac 17eg ganrif. Ar y cyd â'r Athro Farah Karim-Cooper (Shakespeare's Globe), mae'n gyd-olygydd rhifyn arbennig o Shakespeare ar hil a'r genedl a ddeilliodd o Gynhadledd Cymdeithas Shakespeare a drefnodd yn Abertawe yn 2019.

Actorion:

Ffotograff o Joanna Lucas

Cafodd Joanna Lucas ei hyfforddi yn Stiwdio Ddrama Llundain ac ers hynny mae hi wedi perfformio mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau theatr, rhaglenni teledu, hysbysebion ac wedi gwneud gwaith trosleisio. Mae uchafbwyntiau'n cynnwys Romeo and Juliet ar gyfer y Bedouin Shakespeare Company (Globe Theatr Rhufain / West End) Europe, The Ruling Class a High Society  (Gŵyl Theatr Pitlochry) a gweithio ar y sgrîn i'r BBC a Paramount Pictures. Hi yw llais Catherine Howard yn yr Archifau Cenedlaethol, yn darllen llythyr a seliodd dynged y frenhines Duduraidd. Mae Joanna'n gweithio'n helaeth gyda myfyrwyr theatr, fel athro a hwylusydd gweithdai yn y DU a'r Iseldiroedd, gan ganolbwyntio'n benodol ar Shakespeare - am flynyddoedd maith bu'n gysylltiedig â The Globe Players, cwmni theatr sy'n perfformio dramâu Shakespeare mewn ysgolion ledled y DU, ac yn ddiweddar mae eu cynyrchiadau wedi cael eu darlledu'n fyd-eang.

Ffotograff o Edward Llewellyn

Mae Edward Llewellyn wedi bod yn berfformiwr proffesiynol angerddol am dros 10 mlynedd, gan weithio mewn cyfryngau amrywiol, o theatr, teledu a throsleisio. Mae wedi gweithio ar brosiectau proffil uchel megis The Pembrokeshire Murders, Stella, Rownd a Rownd, Pobl y Cwm, a'r ail gyfres o Manhunt sydd yn yr arfaeth, yn ogystal â chydweithio â'r dramodwr a'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen o fri, Tracy Harris, ar ei phrosiect cyfnod clo diweddar, Reminders. Mae hefyd wedi trosleisio sawl ymgyrch deledu ar gyfer Brita Filter, Aardman Animation, Bluestone National Park Resort a llawer eraill. Mae Edward yn dwlu ar Shakespeare ers gweld ei ddramâu yn y theatr ac  mae'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r digwyddiad hwn.

Ffotograff o James Scannell

Cafodd James Scannell ei hyfforddi yn Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Phrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, lle enillodd radd BA dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Theatr. Mae wedi gweithio'n helaeth fel actor, arweinydd gweithdai, chwaraewr rôl, hwylusydd drama, tiwtor, darlithydd, cyfarwyddwr ac, yn ddiweddarach, fel ymarferydd creadigol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Fel Ymarferydd Creadigol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, ei brosiect cyntaf ar gyfer y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol oedd ffilm dan arweiniad myfyrwyr o'r enw Path to Glory, a gafodd ei chanmol am ymarfer rhagorol yng Nghyngor Celfyddydau Cymru a'r tu hwnt, a'i dewis i'w dangos fel rhan o'r rhaglen 'Tate Exchange' yn Oriel Tate Modern yn 2018.

Cyfranogwyr:

Rebecca Gould yw Pennaeth y Celfyddydau, British Council Cymru. Bu gynt yn Gynhyrchydd Creadigol yn Theatr Soho, Llundain. A hithau o Gaerdydd yn wreiddiol, Rebecca yw cadeirydd presennol Theatr Iolo yn ogystal ag artist addysg cysylltiol ar gyfer y Royal Shakespeare Company. Mae wedi gweithio'n helaeth fel cyfarwyddwr theatr, gan gynnwys fel cyfarwyddwr cysylltiol yn Theatr Frenhinol Plymouth, fel cyfarwyddwr prosiectau pobl ifanc y Theatr Genedlaethol, cyfarwyddwr y Cwmni Addysg yn English Shakespeare Company ac fel cyfarwyddwr cysylltiol ym Made in Wales Stage Company.

Mae Rowena Lefebvre Pearson yn fyfyrwraig ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Teitl ei PhD yw: ‘Trans* Temporality: The Representation of Transgenderism within Contemporary Literature’.