Mae nifer o Ysgolion o fewn y Brifysgol wedi neilltuo arian, neu wedi derbyn grantiau, i wobrwyo cyflawniadau academaidd myfyrwyr, ac i'w helpu i gadw dau ben llinyn ynghyd. Isod, ceir rhagor o fanylion am yr ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd (ynghyd ag unrhyw delerau ac amodau perthnasol).

Gobeithir cynyddu nifer a gwerth y dyfarniadau hyn, a gobeithio y bydd modd i ysgolion nad ydynt yn rhoi'r fath gymorth ar hyn o bryd allu gwneud hynny yn y dyfodol.  Gellir cael manylion yr ysgoloriaethau a bwrsariaethau academaidd a restrir isod yn uniongyrchol oddi wrth y Tiwtor Derbyn yn yr Adran berthnasol.

Am yr wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â'r Ysgol Academaidd berthnasol.