Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Students in materials research lab

Pam dewis peirianneg deunyddiau yn Abertawe?

Mae arloesi llwyddiannus yn dibynnu ar ddetholiad a pherfformiad deunyddiau allweddol, a gall y deunyddiau iawn helpu i ddiffinio cynnydd technolegol. Mae Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn faes cyffrous sy'n cynnwys elfennau o ffiseg a chemeg, gan gysylltu'n agos â’r rhan fwyaf o feysydd peirianneg.

Ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch chi’n astudio yn un o ganolfannau blaenllaw y DU ar gyfer addysgu ac ymchwilio i ddeunyddiau. Mae ein cysylltiadau ymchwil ddiwydiannol yn cynnig cyfleoedd rhagorol i’n myfyrwyr gradd ymgymryd â lleoliadau blwyddyn mewn diwydiant, yn ogystal â chyfleoedd ymchwil a chyflogaeth gwych.

Rydym yn paratoi ein myfyrwyr gradd ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rydym yn chweched yn y DU am ragolygon graddedigion yn ôl The Complete University Guide 2022 ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd diddorol mewn cwmnïoedd megis Tata Steel, Rolls-Royce, Jaguar Land Rover, Atkins, GE Aviation, Mott MacDonald a Babcock International Group.

Ysgoloriaeth Gwyddoniaeth Ddeunyddiau a Pheirianneg

Mae’r Adran Peirianneg Ddeunyddiau’n cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau ar draws eu rhaglenni gradd. Mae’r rhain yn cynnwys ysgoloriaethau mynediad gwerth hyd at £1500 ar gyfer myfyrwyr sy’n ennill graddau uchel yn eu harholiadau Safon Uwch (neu gyfwerth), ysgoloriaethau teithio gwerth hyd at £1000 ar gyfer y sawl ar y cynlluniau blwyddyn dramor, a dyfernir ysgoloriaethau perfformiad uchel i fyfyrwyr ar ddiwedd bob blwyddyn.

Nid oes angen cyflwyno cais, dyfernir bwrsariaethau yn awtomatig gan Gyfarwyddwr y Portffolio a’r Tiwtor Derbyn ar ôl cofrestru. Caiff myfyrwyr eu hysbysu’n ffurfiol am ddyfarniad eu hysgoloriaeth cyn i’r tymor ddechrau. Am wybodaeth bellach, e-bostiwch peirianneg@abertawe.ac.uk

Mae Gwyddor Ddeunyddiau a Pheirianneg wedi cael ei achredu gan…

The Institute of Materials, Minerals and Mining logo
Engineering Council accredited degree logo