Ein Harbenigedd Ymchwil

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe ym 1920 i gefnogi diwydiant. Ers hynny, mae wedi parhau ag ymagwedd gymhwysol gref at ymchwilio ac arloesi.

Mae'r adran ddeunyddiau wedi ennill nifer o grantiau, gwerth miliynau o bunnoedd gan ffynonellau nodedig, y mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â diwydiant. Maent yn ein galluogi i gynnal ymchwil o ansawdd i dechnoleg ffotofoltäig ar raddfa fawr, creu dur heb ddefnyddio tanwyddau ffosil, dulliau cyfrifiadol o ddylunio aloeon, deunyddiau storio ynni, deunyddiau awyrofod uwch, delweddu uwch, bio-bolymerau a dirywiad deunyddiau.

Mae cymuned ffyniannus o ymchwilwyr ôl-raddedig a gyrfa gynnar a chyfleusterau rhagorol yn cefnogi’r broses o drosi ein hymchwil yn effaith gymdeithasol ac economaidd ac mae'n meithrin ymdeimlad cryf o berthyn yn yr adran lle mae israddedigion, ôl-raddedigion, ymchwilwyr a staff i gyd yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd.    

Meteleg a Haenau

Y Sefydliad Deunyddiau Strwythurol

Rolls Royce Engine

Mae Rolls-Royce wedi cydweithio â Phrifysgol Abertawe ers dros 40 o flynyddoedd ym maes deunyddiau strwythurol, gan gynnwys cydnabod Abertawe fel Canolfan Technoleg Prifysgol Rolls-Royce, a datblygu'r Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (ISM).

Mae ISM yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i ddatblygu peiriannau tyrbin nwy mwy effeithlon o ran tanwydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o awyrennau , megis Cyfres Trent o beiriannau a ddefnyddir yn y Boeing Dreamliner ac Airbus A380, a'r injan Ultrafan sydd ar ddod. Trwy nodweddu mecanyddol aloiau perfformiad uchel, mae ISM yn gallu cyfrannu at estyn bywyd deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, tra'n sicrhau bod aloiau a chyfansoddion y dyfodol yn gweithredu’n ddiogel .

Mae ISM yn parhau i gefnogi gweithgareddau Rolls-Royce tuag at ddyfodol carbon llai yn y diwydiant awyrofod, ac yn fwy diweddar trwy fwy o gydweithio â thîm niwclear RR wrth ddatblygu Adweithyddion Modwlar Bach.

Ynni mewn Adeiladau