Trawsgrifiad: Vernacare & WRAP Cymru

AmserSianFideo
00:00:00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Cynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng pum Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Cynlluniwyd ASTUTE 2020 i symbylu twf yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru, a hynny trwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch at heriau gweithgynhyrchu, gan ysgogi ymchwil, datblygiad ac arloesedd o'r radd flaenaf.

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Cynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau drôn o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Logos Sefydliadau Addysg Uwch Partner ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Lluniau o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, a'i leoliad ger y traeth.

Adeilad y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe, yn arwain at Swyddog Prosiectau ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrin cyfrifiadur ag efelychiadau o fodelu cyfrifiadurol arni.

Swyddog prosiectau ASTUTE 2020 yn edrych trwy ficrosgop, a robot diwydiannol Kuka yn symud o amgylch mewn dilyniant.

00:32:00

Fy enw i yw Mark Langford, a fi yw Pennaeth Gweithgynhyrchu Frontier Plastics Ltd, sydd 'nawr yn rhan o grŵp cwmnïau Vernacare.

Ein prif swyddogaethau ar safle'r Coed Duon yng Ngwent yw gweithgynhyrchu cynwysyddion offer miniog a dyfeisiau eraill i leihau ac atal niwed.

Ein cynllun erioed oedd gwella ein nodweddion gwyrdd, fel petai, a gwella cynaliadwyedd ein cynhyrchion. Ein gobaith oedd cynyddu faint o gynnwys ailgylchadwy y gallem ei ddefnyddio yn ein hystod o gynwysyddion offer miniog.


Yn dilyn nifer o flynyddoedd o gysylltiad ag ASTUTE, roeddem yn gyfarwydd â'r hyn y gallai ei wneud. Roedd arnom wir angen y cymorth academaidd hwnnw ar hyd y daith, a dyna lle y daeth y cyfle i weithio gydag ASTUTE a WRAP Cymru i ddatblygu prosiect i'n helpu i ddarganfod a nodi deunyddiau addas y gellid eu defnyddio i weithgynhyrchu cynwysyddion offer miniog. 

Mae Mark yn eistedd wrth ddesg bren gyda baneri naid ac arnynt frand ASTUTE 2020 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y cefndir. Mae logos ASTUTE a WEFO yn amlwg ar y baneri naid. Ar y bwrdd mae yna enghreifftiau o gynwysyddion offer miniog Vernacare mewn meintiau gwahanol, ynghyd ag ategolion llwyd wedi'u hailgylchu.

Llun sefydlu o'r tu allan i gyfleuster Vernacare yn y Coed Duon yn dangos logo Vernacare.

Lluniau agos o'r cynwysyddion offer miniog melyn sydd wedi'u gwneud o 20% cynnwys plastig, ynghyd â'r hambyrddau ategolion llwyd sy'n cynnwys 100% deunyddiau wedi'u hailgylchu.

Llun llydan o fynedfa flaen swyddfa a chyfleuster gweithgynhyrchu Vernacare yn y Coed Duon.

Lluniau o gaeadon plastig a wnaed trwy fowldio chwistrellu, yn symud ar hyd cludfelt yn y cyfleuster gweithgynhyrchu.

Llun agos o'r biniau offer miniog melyn, a wnaed trwy fowldio chwistrellu yn y cyfleuster gweithgynhyrchu, yn barod i'w pacio a'u cludo. 
00:01:20

Fy enw i yw Costa Athanatos, rwy'n Rheolwr Cyfrifon Busnes a Chyflawni Prosiectau ar gyfer WRAP.

Ystyr WRAP yw Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (Waste and Resources Action Programme). Cawn ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i gyflawni ei pholisïau a'i strategaethau ar gyfer helpu Cymru i anelu at Economi Gylchol, carbon isel, a chyfrannu at ei nodau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a llesiant. 

Mae Costa yn eistedd wrth fwrdd pren gyda baneri naid ASTUTE yn Gymraeg ac yn Saesneg yng nghefndir y llun. Mae'r baneri naid yn cynnwys logos ASTUTE 2020 a WEFO.

Ar y bwrdd o'i flaen mae yna enghreifftiau o'r cynwysyddion offer miniog melyn sydd bellach yn cael eu gwneud gan ddefnyddio 20% deunyddiau wedi'u hailgylchu, diolch i lwyddiant y prosiect hwn. Mae yna hefyd ddewis o ategolion 100% wedi'u hailgylchu ar y bwrdd sy'n llwyd a du eu lliw.
Lluniau llydan o'r peiriannau mowldio chwistrellu yng nghyfleuster gweithgynhyrchu Vernacare, gyda breichiau mecanyddol yn codi ac yn gollwng cynhyrchion newydd eu mowldio yn y llinell gynhyrchu. 
00:01:42

Roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ddeunydd a fyddai'n cwmpasu profion safonau y Cenhedloedd Unedig ac ISO. Dau o'r prif brofion y mae'n rhaid eu cynnal ar ein cynhyrchion yw'r profion treiddio a gollwng.

Roedd WRAP yn canolbwyntio'n bennaf ar geisio darganfod y deunyddiau penodol a fyddai, o bosibl, yn addas ar gyfer ein prosesau. Chwaraeodd ASTUTE ei ran trwy wneud y gwaith ymchwilio yn y labordy. Aeth ati i gynnal nifer o chwiliadau papur o ran chwilio am ddeunyddiau addas a chyfuniadau addas o ddeunyddiau. Yn dilyn hynny, aethom ati i fowldio samplau o ddarnau prawf, ac aeth ASTUTE â nhw i'r Brifysgol i gynnal profion arnynt a rhoi syniad i ni a oedd rhywbeth yn gadarnhaol neu'n negyddol. 

Mark yn eistedd wrth y ddesg gyda baneri naid ASTUTE yn y cefndir a bin offer miniog ar y bwrdd.

Lluniau agos o'r peiriannau ar linell gynhyrchu Vernacare.

Llun agos o'r biniau offer miniog melyn a'r bocsys cardbord â brand Vernacare a ddefnyddir ar gyfer cludo.

Llun llydan o beiriannau mowldio chwistrellu yn symud ac yn gweithio ar y llinellau cynhyrchu.

00:02:24 Rydym yn gobeithio gallu dangos sut y gallwn oresgyn y rhwystrau hyn trwy weithio gyda'r gadwyn gyflenwi ac ysgogi'r farchnad i newid y ffordd yr ydym yn dylunio cynhyrchion. Bydd hyn yn cynyddu'r defnydd o gynhyrchion polypropylen wedi'u hailgylchu, gan ysgogi'r farchnad yng Nghymru ar gyfer cynnwys wedi'i ailgylchu a gweithio tuag at economi gylchol.

Costa yn eistedd wrth ddesg gyda baneri naid ASTUTE yn y cefndir a bin offer miniog ar y bwrdd.

Peiriant hydrolig yn chwistrellu plastig tawdd i'r mowldiau i greu caeadon biniau.

Llun canolig o'r mowld yn agor i ddatgelu caead bin gwyn newydd ei fowldio yn cael ei godi gan fraich fecanyddol.
00:02:47

Rydym 'nawr mewn sefyllfa lle mae cyfran o'n hystod o gynwysyddion offer miniog yn cynnwys hyd at 20% o ddeunydd wedi'i ailgylchu. Mae'r ffigur hwnnw'n  cynyddu, a bydd yn parhau i gynyddu dros y 12 mis nesaf. Rwy'n meddwl mai ein targed yw cyrraedd 30% o ddeunydd wedi'i ailgylchu dros y ddwy flynedd nesaf, ac rydym yn sicr ar y ffordd i gyflawni hynny.

O ran ein cadwyn gyflenwi, rydym yn dod â deunyddiau i mewn o fusnesau cymharol leol. Rydym yn trawsnewid y gwastraff yn gynnyrch cwbl ddefnyddiadwy. 

Llun agos o finiau enfawr o belenni plastig melyn a ddefnyddir i weithgynhyrchu biniau offer miniog yng nghyfleuster Vernacare.

Llun canolig o gaeadon biniau gwyn a biniau melyn yn symud ar hyd cludfeltiau ar y llinell gynhyrchu.

00:03:16

Yr hyn yr ydym wedi'i ddarganfod wrth weithio gydag ASTUTE yw ei fod yn gallu cyfrannu'r profiad perthnasol a fydd yn cyd-fynd orau â'r gofynion dan sylw wrth adnabod a phennu cwmpas y prosiect.

Yn y byd busnes, mae pob un ohonom yn ceisio arbed arian, ond rwy'n meddwl ein bod yn bennaf yn ceisio sicrhau gwelliannau. Rydym yn ystyried cynaliadwyedd, rydym am gynyddu cynhyrchiant, rydym am wneud y peth iawn i'n busnes. Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, mae cymorth ASTUTE, yn bendant yn ein hachos ni, wedi bod o fudd mawr. 

Lluniau o'r peiriannau yr oedd Vernacare wedi gallu eu prynu i brofi samplau o gynnyrch gan ddefnyddio cyllid o grant WRAP Cymru.

Lluniau canolig o finiau melyn yn symud ar gludfelt.

Lluniau o ddau weithiwr ffatri benywaidd yn codi biniau o'r llinell gynhyrchu i reoli eu hansawdd cyn eu pentyrru yn barod i'w pacio a'u cludo.

00:03:45 Ers ein cysylltiad ag ASTUTE, gallwn briodoli 9-11 o swyddi llawn-amser yn ystod y cyfnod hwnnw yn uniongyrchol i'r amryw o brosiectau yr ydym wedi ymgymryd â nhw ar y cyd ag ASTUTE. Mae hyn hefyd wedi ein galluogi i ddatblygu ein pobl ein hunain sydd gennym ar y safle, ac i roi cyfle iddynt weithio gyda phobl yn y byd academaidd. Mae'r cysylltiad wedi bod yn eithriadol o werthfawr, a byddwn yn gobeithio bod yr un peth yn wir yn achos ASTUTE hefyd.

Llun o weithiwr ffatri yn codi bocsys wedi'u pacio oddi ar y llinell gynhyrchu yn barod i'w cludo.

Mark yn eistedd wrth y ddesg gyda baneri naid ASTUTE yn y cefndir a bin offer miniog ar y bwrdd.

00:04:06

Mae wedi bod yn gydweithrediad hir, a'r hyn yr ydym yn ceisio ei ddangos yw y gallwn oresgyn yr heriau hyn trwy weithio gyda'n gilydd; y syniad yw y dylid annog gwneuthurwyr i ddechrau ar y daith honno ac ailystyried eu cynhyrchion.

Cyflawnwyd y prosiect ar amser heb fawr o darfu o gwbl ar y cyfleuster gweithgynhyrchu yn ystod cyfnod COVID. I wneud hynny mae'n rhaid cael tîm o'ch cwmpas, a gweithiodd y timau yn Vernacare, ASTUTE a WRAP yn ddi-dor, os gallaf ddweud hynny, i helpu i gyflawni'r prosiect hwn.

Wrth gwrs, mae'n rhaid diolch yn fawr i bawb a oedd yn rhan o'r prosiect; ni allem fod wedi llwyddo heb gefnogaeth a chymorth pawb.

Costa yn eistedd wrth ddesg gyda baneri naid ASTUTE yn y cefndir a bin offer miniog ar y bwrdd.

Lluniau llydan o beiriannau mowldio chwistrellu ar linell gynhyrchu Vernacare.

Mark yn eistedd wrth y ddesg gyda baneri naid ASTUTE yn y cefndir a bin offer miniog ar y bwrdd.

Lluniau o gynhyrchion Vernacare yn symud ar hyd eu llinell gynhyrchu – cynwysyddion bach melyn a bocsys cludo cardbord wedi'u pacio.

 

Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo ASTUTE 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Dolen i wefan ASTUTE 2020.