AmserSainFideo
00.00.00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng sawl prifysgol sy’n Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Diben ASTUTE 2020 yw ysgogi twf yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru drwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch at heriau yn y maes gweithgynhyrchu ac ysgogi ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar.

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, wedi’u tynnu â drôn.

Logos y Sefydliadau Addysg Uwch sy’n Bartneriaid i ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Lluniau o’r adeiladau ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, gan edrych i gyfeiriad gwaith dur Port Talbot.

Adeilad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yna Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur gydag efelychiadau modelu cyfrifiadurol arno.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i lawr microsgop a robot diwydiannol Kuka yn symud o gwmpas mewn dilyniant.   

00:00:31 Helô! Fi yw Gareth Stockman, a fi yw Prif Swyddog Gweithredol Marine Power Systems. Rydyn ni’n datblygu dyfeisiau sy’n gallu cynhyrchu pŵer glân, fforddiadwy a dibynadwy. Yn Ne-orllewin Cymru mae MPS, ac mae ASTUTE ar stepen y drws i ni, felly maen nhw’n bartner academaidd amlwg i ddewis i greu cysylltiad â nhw.

Cyflwyniad Gareth Stockman, Prif Swyddog Gweithredol Marine Power Systems, o flaen baner ASTUTE 2020, gydag astudiaethau achos a thaflenni ASTUTE 2020 ar y ddesg, cyn symud ymlaen i ddangos yr arnofyn a’r staff.

Llun o logo MPS.

00:00:52

Mae Marine Power Systems wedi gweithio gydag  ASTUTE ers sawl blwyddyn ar nifer o brosiectau ymchwil. Rydyn ni’n dod i gysylltiad â nhw fel rhan o ASTUTE 2020, a’n nod oedd defnyddio proses weithgynhyrchu hysbys oedd yn cynnwys plastig â atgyfnerthwyd â gwydr. Roedden ni am ddefnyddio hynny ar gyfer y prif arnofyn ar ein trawsnewidydd ynni tonnau. 

O ganlyniad, roedden ni’n teimlo ei fod yn hollbwysig modelu ac efelychu’r ddyfais a’r arnofyn mewn senario newydd er mwyn sicrhau bod modd iddo ymdopi â’r amgylchedd didostur pan fydden ni’n ei ddefnyddio yn y môr. 

Delweddau o ddadansoddi CFD. Lluniau o Gareth Stockman yn disgrifio her y gwaith ymchwil a’r cymorth oedd yn ofynnol.

Lluniau o’r arnofyn plastig, a atgyfnerthwyd â gwydr, yn cael ei weithgynhyrchu o dan y pennawd ‘Arnofyn WaveSub a ddyluniwyd ar y cyd gan MPS, Camplas ac ASTUTE 2020; gweithgynhyrchwyd yr arnofyn gan Camplas Technology Ltd’.

Delwedd o’r arnofyn WaveSub.

Lluniau wedi’u hefelychu o’r ddyfais a’r arnofyn yn y dŵr.

00:01:23 Roedd y trefniant cydweithio gydag ASTUTE 2020 yn llwyddiant mawr. Yn sicr fe lwyddon ni i gyflymu’r amser dreulion ni ar ddatblygu’r WaveSub trwy greu cysylltiad â thîm o academyddion oedd eisoes yn meddu ar sgiliau allweddol ym maes dadansoddi elfen derfynedig. Lluniau o’r tu allan o’r WaveSub a staff ar ysgraff yn ei ymyl.
00:01:39 Cynigiodd ASTUTE 2020 lefel aruthrol o gymorth ar hyd y prosiect. Mae ganddyn nhw fynediad at y cyfarpar diweddaraf, sy’n golygu bod modd i ni gynnal dadansoddiad deinameg hylif cyfrifiadurol, optimeiddio’r ddyfais, sicrhau ein bod ni’n wir yn deall sut byddai’n gweithredu, ac ar sail yr wybodaeth roddon nhw i ni, gallen ni sicrhau ein bod ni’n creu’r strwythur cryfaf â’r swm lleiaf o ddeunydd, a fyddai yn y pen draw yn golygu cost weithgynhyrchu is.

Ysgraff yn cludo’r WaveSub ar draws y môr.

Lluniau o Gareth Stockman yn disgrifio beth gall ASTUTE 2020 ei gynnig a sut buon nhw o gymorth.

Lluniau o gyfarpar yn cael ei ollwng i lawr i’r ysgraff, a’r staff yn ei osod yn ei le, gyda Gareth Stockman hefyd yn cynorthwyo.

00:02:06 Rydyn ni’n teimlo’n gwbl hyderus ynghylch dadansoddiad cyfrifiadurol ASTUTE 2020 ar yr arnofyn, ac mae hynny’n rhan allweddol o’r gweithgynhyrchu. Maen nhw wedi tynnu’r elfen o risg allan, ac rydyn ni’n hyderus wrth symud ymlaen bod modd adeiladu ein harnofion ar raddfa fawr er mwyn masnacholi ein dyfeisiau.

Lluniau o’r peirianwaith adeiladu a Gareth Stockman ar gwch yn teithio tuag at yr ysgraff.

Lluniau o’r WaveSub yn cael ei gludo ar draws y môr.

Lluniau o Gareth Stockman yn trafod ei hyder yng ngwaith ASTUTE 2020.

00:02:28

Mae’r bartneriaeth rhwng MPS ac ASTUTE 2020 wedi gweithio’n anhygoel o dda. Cafodd y cydweithio llwyddiannus ei gydnabod gan wobr ymchwil a datblygu Insiders Business.

Mae MPS wedi bod yn fodlon iawn ar ganlyniadau’r prosiect, a gwaith caled ASTUTE a’r tîm MPS sy’n gyfrifol am hynny. Fe wnaethon nhw ein harwain i sefyllfa lle roedden ni’n hyderus i greu arnofyn graddfa fawr.

Lluniau o staff MPS ar gwch a staff wedi dod at ei gilydd ar gyfer cyfarfod anffurfiol, cyn symud ymlaen at luniau o gwch modur ar y môr yn mynd tuag at y WaveSub.

Llun o’r wobr yn cael ei chyflwyno.

Gareth Stockman yn disgrifio canlyniadau’r cydweithio.

Staff MPS yn teithio tuag at y WaveSub ar gwch. Lluniau o’r staff yn rhoi cyfarpar yn ddiogel ar y WaveSub. Staff yn dychwelyd at y cwch ar ôl gwneud y gwaith gosod yn llwyddiannus.

00:02:59

Roedd tîm ASTUTE 2020 yn gefnogol iawn, ac roedd ganddyn nhw set amrywiol ac unigryw o sgiliau, oedd yn ychwanegu gwerth aruthrol i’r tîm MPS. Rwy’n bendant yn argymell bod unrhyw un sydd â phrosiect sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu yn dod i gysylltiad ag ASTUTE 2020.

Staff yn teithio i ffwrdd o’r arnofyn ac yn ôl at yr ysgraff.

Gareth Stockman yn argymell bod eraill yn ymgysylltu ag ASTUTE 2020.

00.03.15

Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

ASTUTE 2020 a Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dolen i wefan ASTUTE 2020.