Uchafu canlyniadau cynaliadwyedd cynnyrch mewn mwy o werthiannau ac ehangu ar gyfer Frontier Medical

Mae Grŵp Meddygol Frontier yn un o’r prif weithgynhyrchwyr yn y farchnad ac yn cyflenwi dyfeisiau meddygol ansawdd uchel i ddarparwyr gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.  

Mae gan Frontier hanes hir o arloesedd gyda’i amrywiaeth o gynnyrch, gan gynnwys Sharpsafe® – y cynhwysydd plastig cyntaf yn y byd a weithgynhyrchwyd at y diben o waredu nodwyddau, a’r prif frand ym marchnad Ewrop; a hefyd Repose® – ystod o ddyfeisiau gofal unigryw ar gyfer mannau gwasgu a ddefnyddiwyd i drin dros 3 miliwn o gleifion yn llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn cydweithio llwyddiannus rhwng Frontier ac ASTUTE (2010 – 2015) ar Repose® a ffocws parhaus Frontier ar barhau’n gystadleuol, defnyddio deunyddiau newydd ac optimeiddio prosesau, rhychwantwyd prosiect Ymchwil a Datblygu (R&D) ar y cyd ag ASTUTE 2020.
Nod ymchwilwyr ASTUTE 2020 a thîm ymroddedig o saith o aelodau staff Frontier yw cyflawni’r prosiect sy’n archwilio datblygiad methodolegau ar gyfer cystadleurwydd gwell a chynaliadwy ym maes mowldio chwistrellu, gan godi lefel parodrwydd Frontier o ran technoleg proses tuag at TRL 5.

Heriau

Mae cynnyrch Frontier yn cael eu gweithgynhyrchu gan fodloni gofynion llym o dan ISO 13485 ar gyfer dyfeisiau meddygol, ac mae costau gweithredu sylweddol ynghlwm wrthynt o ran llafur, deunyddiau ac ynni.

Nod y prosiect yw archwilio ac optimeiddio’r broses o oeri offer mowldio chwistrellu, ochr yn ochr ag archwilio prif system y ffatri.  Bydd ASTUTE 2020 yn defnyddio arbenigedd yn hanfodion gwyddonol y broses fowldio ac yn gweithio gyda thîm Frontier i ddatblygu a gwella arferion presennol a gweithredu gwelliannau proses ar beiriant penodol. Ar yr un pryd bydd y timau’n datblygu map ffordd ar gyfer estyn yr amodau cynhyrchu gwell a optimeiddiwyd ar draws y ffatri.

  • Offeryniaeth monitro cyfyngedig, e.e. gosod, darlleniadau anghyson neu annibynadwy.
  • Roedd angen gwaith addasu sylweddol ac uwchraddio ar y ffeiliau CAD ar gyfer efelychiadau Moldflow®.
  • Cyfleoedd cyfyngedig i wneud newidiadau yn sgîl dyluniad mowldiau cyfredol neu rannau.

Gall oeri rhannau a luniwyd trwy fowldio chwistrellu gael effaith bwysig ar ansawdd y rhan derfynol, yn benodol o ran camdroi. Er bod rhannau o ansawdd yn cael eu cynhyrchu gan Frontier, ar hyn o bryd nid oes dull gwyddonol o fynd ati i fonitro cyfraddau defnydd llif dŵr na pherthnasedd tymereddau penodol i fwyafrif y mowldiau unigol. Mae’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth am y gyfatebiaeth â chyfernodau trosglwyddo gwres hefyd yn gyfyngedig, felly nid yw’n hysbys a yw’r amodau oeri delfrydol ar waith. Fodd bynnag, mae Frontier yn ymroddedig i gefnu ar y senario hon trwy gyflwyno a datblygu dull gweithredu mwy gwyddonol sy’n rhoi cyfle i optimeiddio’r broses, gan gynyddu ansawdd y cynnyrch ymhellach lle bo modd, a gwella effeithlonrwydd gweithgynhyrchu.

Rhagwelir gwelliannau disgwyliedig a fydd yn helpu i gyrraedd gweithgynhyrchu wedi’i optimeiddio, sy’n fwy cynaliadwy, gan leihau’r defnydd o ynni a’r allyriadau carbon, defnyddio llai o ddeunyddiau, gostwng hyd y gylchred, a hefyd wella cysondeb, ansawdd a dealltwriaeth.

Datrysiad

Dull gweithredu ASTUTE 2020 yw ymchwilio a mesur y manteision posibl trwy drosglwyddo gwybodaeth mewn trafodaeth bord gron a threialon peiriant ymarferol, gan fonitro’r data. Cyflwynir dulliau ystadegol er mwyn optimeiddio a rheoli’r broses, ynghyd â dealltwriaeth ddigonol o’r ffenomena ffisegol gwaelodol sy’n berthnasol i’r broses mowldio chwistrellu.

Dylai treialon arbrofol gyda chefnogaeth arbenigedd efelychu cyfrifiadurol ASTUTE 2020 fedru asesu cylched oeri’r oerwr a’r mowld. Byddai hynny’n golygu bod modd i Frontier lunio gwerthusiad economaidd o addasiadau i’r system, gydag argymhellion ynghylch methodoleg monitro parhaus.

Effaith

Mae’r ymroddiad a’r cydweithio rhwng Frontier Medical a thîm ASTUTE 2020 yng nghyfnodau cyntaf y prosiect wedi arwain at yr effaith a’r manteision canlynol:

  • Buddsoddiad mewn peiriant mowldio chwistrellu newydd sydd â gwell gallu i fonitro data a chyfarpar monitro llif pibellau er mwyn i Frontier fesur trwybwn hylif.
  • Mae dulliau newydd o wella’r broses wedi lleihau rhai elfennau oedd yn amrywio yn y broses ac wedi mireinio rhannau o’r ffenestr brosesu.
  • Cyfle pwysig i leihau amser y gylchred yn achos prosesau eraill – gostyngiad o 10% yn amser y gylchred ar y peiriant a ddefnyddiwyd wrth dreialu’r prosiect.
  • Gostyngiad o 10g (4%) ym mhwysau’r gydran a ddefnyddiwyd yn ystod y prosiect trwy ddatblygu a mireinio’r broses optimeiddio.
  • Cyfle posibl i sicrhau gostyngiad o 20 - 25% yn y pŵer mae pympiau cyflenwi’r brif gylched oeri dŵr yn ei ddefnyddio; gallai hynny gynrychioli arbediad o ryw £4,000 - £5,000/y flwyddyn mewn taliadau ynni.
  • Trosglwyddo gwybodaeth i’r ddau gyfeiriad er mwyn optimeiddio oeri offer a gwneud gwaith cynnal a chadw.
  • Wrth gynyddu gwerthiant, crëwyd mwy o swyddi, gan ehangu gweithlu Frontier. Mae disgwyl i ragor o gyfleoedd am swyddi ddod i’r amlwg ar draws y busnes yn ystod y misoedd nesaf.
  • Mae disgwyl i arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol sicrhau mwy o dwf i’r busnes a helpu i gynnal cystadleurwydd yn y dyfodol, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Cafwyd gwerth ychwanegol i’r prosiect ar ffurf myfyriwr gradd meistr penodedig o’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A), wedi’i ariannu gan yr UE. Mae gwaith y myfyriwr dan sylw yn cydweddu â phrosiect ASTUTE 2020, sy’n golygu bod Frontier yn cael cymorth ychwanegol tra bod y myfyriwr yn elwa o hyfforddiant ymchwil a arweinir gan y diwydiant.