YSBRYD PARTNERIAETHAU LLWYDDIANNUS RHWNG DIWYDIANT AC ACADEMIA ERS 2010

Yng Nghanolfan Ragoriaeth ASTUTE, rydym yn cydweithio â busnesau yn y diwydiant gweithgynhyrchu i hybu cynhyrchiant a thwf drwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch i heriau gweithgynhyrchu cymhleth.

Rydym yn cefnogi cwmnïau i yrru eu hymdrechion ymchwil, datblygu ac arloesi yn eu blaen, gan arwain at ystod o effeithiau economaidd, amgylcheddol a masnachol cadarnhaol megis creu swyddi, cyfleoedd rhannu gwybodaeth, datblygu arferion cynaliadwy, a dod â chynhyrchion newydd i'r farchnad.

Mae ASTUTE (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth aml-Brifysgol a arweinir gan Brifysgol Abertawe sy'n darparu prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid diwydiant mewn tri maes arbenigedd allweddol: Technoleg Deunyddiau Uwch, Modelu Peirianneg Gyfrifiadurol, a Pheirianneg Systemau Gweithgynhyrchu.

ASTUTE Contributes £540m to Welsh Economy

Cafodd ASTUTE, ASTUTE 2020 ac ASTUTE EAST eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru rhwng 2010 a 2022. Ar ôl i ffrydiau ariannu’r UE ddod i ben, daeth ASTUTE yn bartner cyflawni Dadansoddiad ar gyfer Arloeswyr (A4I) – cyfle grant ar gyfer busnesau o bob maint yn y DU a ariennir ar y cyd gan Innovate UK Research and Innovation – dan yr enw ASTUTE Centre of Excellence.

mwy wrth ASTUTE...