Hysbysiad Preifatrwydd Peirianneg Prifysgol Abertawe

Sut ydym ni’n defnyddio eich data?

Prifysgol Abertawe yw prif drefnydd Ysgolion Haf y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, a gynhelir mewn cydweithrediad â Chynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW), ac mae’n gyfrifol am gasglu a phrosesu data personol, gan gynnwys data sy’n cael ei ddiffinio fel categori arbennig. O ganlyniad, Prifysgol Abertawe yw’r rheolwr data ac mae’n ymrwymedig i amddiffyn hawliau’r cyfranogwyr yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu ag ef drwy e-bostio dataprotection@abertawe.ac.uk

 

Pa fath o wybodaeth rydym ni’n ei chasglu? 

Cyflwyno cais 

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan ymgeiswyr am yr Ysgol Haf Peirianneg i’n helpu ni i brosesu eu ffurflenni cais ac i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y rhaglen. Os byddant yn llwyddiannus, defnyddir manylion cyswllt y rhiant/gwarcheidwad i gyfathrebu ac i gasglu gwybodaeth hanfodol am ddiogelu. 

Ymgeisydd: 

  • Enw 
  • Manylion cyswllt (rhif ffôn a chyfeiriad e-bost) 
  • Dyddiad geni 
  • Rhyw 
  • Cyfeiriad cartref 
  • Ysgol 
  • Cyflawniadau Addysgol Blaenorol 

Rhiant/Gwarcheidwad 

  • Enw 
  • Manylion cyswllt (rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)

Dethol 

Cysylltir ag ymgeiswyr llwyddiannus gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddwyd wrth gyflwyno cais i ofyn am yr wybodaeth ganlynol: 

  • Anabledd 
  • Gofynion deietegol 
  • Gofynion diwylliannol 
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng 
  • Alergeddau 
  • Trefniadau meddygol 
  • Meddyginiaethau  
  • Manylion meddyg teulu 
  • Llun 

Yn achos gweithgareddau preswyl a gweithgareddau’r tu allan i oriau ysgol, rydym yn casglu manylion meddygol a gofynion arbennig at ddiben darparu cefnogaeth a sicrhau iechyd a diogelwch y cyfranogwyr a’r staff. Rydym yn gofyn am wybodaeth am anabledd i sicrhau bod y cwrs yn hygyrch i bawb sy’n dod ac i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a sesiynau ymarferol yn ddiogel.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu’r data?

Ein sail gyfreithiol ni dros gasglu a phrosesu data personol yw cydsyniad. Rydym ni’n casglu cydsyniad i gyfleu, marchnata a chasglu’r holl ddata o ymgeiswyr Ysgolion Haf.

Ein sail gyfreithiol dros gasglu a phrosesu data categori arbennig yw cydsyniad. Gofynnir i ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i gymryd rhan yn y rhaglen roi manylion meddygol i sicrhau y gall Prifysgol Abertawe liniaru’r risg o salwch pan fydd yr unigolyn yn cymryd rhan yn yr Ysgol Haf.

Mae’r gwaith rydym ni’n ei gyflawni yn hyrwyddo cyfranogiad mewn addysg uwch er budd:

Mae EESW yn elusen gofrestredig a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n ariannu 50% o'r lleoedd yn yr Ysgol Haf Peirianneg. Mae angen i Brifysgol Abertawe sicrhau bod yr arian rydym yn ei dderbyn gan asiantaethau cyllido'r llywodraeth yn cael ei wario'n briodol ac yn cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol y derbynnydd.

Er mwyn mesur effaith a chynnal ein gweithgareddau, mae angen i ni gasglu data ynghylch cyfranogiad myfyrwyr, e.e. Lle caiff data ei gasglu at y diben hwn, EESW yw Rheolydd y Data a Phrifysgol Abertawe yw Prosesydd y Data.

Cwestiynau eraill?

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut rydym yn prosesu data monitro unigolion, cysylltwch â’n tîm Ysgol Haf yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, EngineeringSummerSchool@abertawe.ac.uk

Sut i gyflwyno cwyn

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym wedi prosesu’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn y lle cyntaf gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Os byddwch yn anfodlon o hyd, mae gennych hawl i gyflwyno cais yn uniongyrchol am benderfyniad gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Adolygwyd a Diweddarwyd: Ionawr 2021.