Mae'r Archifau'n cynnwys nifer o gasgliadau am fusnesau lleol, megis South Wales Transport Company a llawer o gwmnïau metelegol. Mae'r diwydiannau copr, tunplat a dur wedi'u cynrychioli'n arbennig o dda. Mae'r casgliadau hyn yn amrywio o ran dyddiad, cwmpas a chynnwys. Ceir amrywiaeth eang o ddeunyddiau ynddynt, gan gynnwys llyfrau cofnodion, cyfriflyfrau ariannol, dogfennau cyfreithiol, cofnodion staff a phapurau technegol.

Am ganllaw manwl i rai o'r casgliadau diwydiannol a busnes pwysig sydd gennym - tunplat, peirianneg, dur, cludiant, copr, olew a gweithfeydd cemegol - cysylltwch â'r Archifau.

hafod map