Croeso i ffiseg yn Abertawe

Croeso i’n canllaw cyflym i astudio Ffiseg yn y brifysgol. Gallwch wylio fideos gan ein staff a mynd ar daith o’r adran. Gallwch glywed yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud a sgwrsio â nhw drwy Unibuddy.

Os nad ydych chi wedi ymweld â Phrifysgol Abertawe neu gyflwyno cais o’r blaen a hoffech gael rhagor o wybodaeth am Ffiseg, cadwch le ar ein Ein Diwrnodau Agored - Rhithwir ac Ar y Campws.

Cyfres gweminar Ffiseg Prifysgol Abertawe

Pa Yrfaoedd Allai Fod Ar Gael I Mi Ar Ôl I Mi Raddio?

Mae meithrin sgiliau craidd a phrofiad bywyd gwerthfawr tra byddwch yn y Brifysgol yn bwysicach nag erioed. Bydd astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o’r cyfreithiau sylfaenol sy’n tanategu’r byd naturiol cyfan – o fecaneg gwantwm, sy’n disgrifio cwarciau a gliwonau, i ddamcaniaeth disgyrchiant Einstein, sy’n berthnasol i’r bydysawd ar raddfeydd cosmolegol.

 Mae llawer o’n cyrsiau’n cynnig cyfle i dreulio blwyddyn mewn diwydiant neu dramor – sy’n rhoi mantais ychwanegol i chi mewn marchnad swyddi gystadleuol. Rydym yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad gwaith addas ac mae gennym gysylltiadau â phrifysgolion ledled y byd.

DATRYS PROBLEMAU SAFON UWCH

Gwyliwch ein cyfres o fideos byr sy’n dangos myfyrwyr Ffiseg ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe’n datrys problemau Safon Uwch.

EWCH AR DAITH RITHWIR AC ARCHWILIWCH DROSOCH EICH HUN

Edrychwch ar daith o 360o o'n cyfleusterau, campws a llety...

Ffioedd, Cyllid ac Ysgoloriaethau

Ffioedd a Chyllid