Mae'r Prosiect Mentora Ffiseg yn gosod myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cymwys mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol.

Fel rhan o’r prosiect hwn, ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a De Cymru, mae ein mentoriaid yn cydweithio â myfyrwyr blwyddyn 10 ac 11 ledled Cymru i hyrwyddo cymwysterau Ffiseg a helpu i fagu hyder a hunanymwybyddiaeth.

Yng Nghymru:

  • mae nifer y myfyrwyr sy'n astudio Ffiseg Safon Uwch lawer is na'r niferoedd sy'n gwneud Cemeg neu Fioleg,
  • O'r myfyrwyr hynny a wnaeth sefyll Arholiadau Safon Uwch Ffiseg yn 2017, dim ond 18.5% ohonynt oedd yn ferched, ac;
  • Mae gan lai na 45% o athrawon Ffiseg radd mewn ffiseg.

Ystyrir yn eang fod ffiseg yn bwnc anodd. Mae myfyrwyr a rhieni yn aml yn

ei chael hi'n anodd gweld manteision y pwnc, gan gynnwys y sgiliau trosglwyddadwy a’r gyrfaoedd posibl. Nod y Prosiect Mentora Ffiseg yw mynd i'r afael â hyn, er mwyn cyfrannu yn y pen draw at economi a ffyniant Cymru yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Mentora Ffiseg, ewch i: https://mentoraffiseg.co.uk/

Cyswllt: Dr Sarah Roberts