Dr Sarah Roberts

Uwch-ddarlithydd, Physics

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
504A
Pumed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Uwch-ddarlithydd, seryddwr ac addysgwr STEM brwd yw Sarah sy’n angerddol am sicrhau bod pawb yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth. Yn ei rôl fel arweinydd Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS) yn y Coleg Gwyddoniaeth, mae’n gwthio agenda Cynwysoldeb, Llwyddiant Dysgwyr ac Ehangu Mynediad ac yn awyddus i sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn cyflawni hyd orau eu gallu. Yn hyn o beth mae hi’n gweithio’n galed i annog myfyrwyr o *bob* cefndir i ystyried astudio gwyddoniaeth mewn addysg uwch. Sarah hefyd yw arweinydd ymgysylltu â myfyrwyr yn y Coleg Gwyddoniaeth, gan helpu i feithrin cymuned wyddonol gref a chadarnhaol a gwella profiad myfyrwyr ledled y coleg.

Meysydd Arbenigedd

  • Seryddiaeth
  • Galaethau corachaidd
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd
  • Allgymorth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

1. Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA)

2. Cymrawd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol (FRAS)