Ymrwymiad i Egwyddorion Siarter Arian Athena

Mae Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ymrwymedig i hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. I sicrhau hyn, byddwn yn nodi ac yn mynd i’r afael â meysydd lle mae angen ymyrryd a rhannu arfer gorau i gynnig diwylliant o gyd-gymorth a chyd-barch, meithrin ymgysylltu cadarnhaol a chynnig amgylchedd cyfartal i’n holl staff a myfyrwyr.

Ar ran Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe, rwyf am gadarnhau fy ymrwymiad i egwyddorion Siarter Athena Swan.

Rwyf yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ymroddedig i weithio tuag at gyflawni nodau Siarter Athena Swan ac rwyf yn cadarnhau ein bod ni'n derbyn egwyddorion y siarter.

Wrth ymrwymo i egwyddorion Siarter Arian Athena, rydym ni'n cydnabod ein bod ni'n ymuno â chymuned fyd-eang sy'n rhannu'r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a gwreiddio diwylliannau cynhwysol.

Mae gan bob sefydliad, sefydliad ymchwil ac adran heriau a blaenoriaethau datblygu gwahanol pan ddaw i gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Dylid datblygu'r blaenoriaethau hyn ar sail dealltwriaeth o'r materion cydraddoldeb cenedlaethol a byd-eang sy'n seiliedig ar dystiolaeth leol.

Wrth bennu ein blaenoriaethau a'n hymyriadau, rydym ni'n ymrwymo i:

1. Fabwysiadu prosesau cadarn, tryloyw ac atebol ar gyfer gwaith cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys:

a. Gwreiddio amrywiaeth, cyfiawnder a chynhwysiant yn ein diwylliant, wrth wneud penderfyniadau a meithrin partneriaethau a bod yn atebol yn bersonol a sicrhau bod eraill yn ein sefydliad/ein hadran yn atebol hefyd.

b. Ymgymryd â phrosesau hunanasesu tryloyw ar sail tystiolaeth i gyfeirio ein blaenoriaethau a'n hymyriadau ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a gwerthuso ein cynnydd i lywio ein datblygiad parhaus.

c.Ssicrhau y caiff gwaith cydraddoldeb rhwng y rhywiau ei rannu'n briodol, ac y caiff ei gydnabod a'i wobrwyo'n briodol.

2. Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau strwythurol ac anghyfiawnder cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg mewn profiadau a chanlyniadau gwahanol staff a myfyrwyr

3. Mynd i'r afael ag ymddygiad a diwylliannau sy'n tanseilio diogelwch a cholegoldeb ein gwaith a'n hamgylcheddau astudio i bobl o bob rhyw, gan gynnwys peidio â goddef trais ar sail rhyw, gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu neu gamfanteisio ar bobl.

4. Deall a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau croestoriadol.

5. Meithrin dealltwriaeth ar y cyd lle mae gan unigolion yr hawl i bennu eu hunaniaeth ryw eu hunain, a mynd i'r afael â'r materion penodol mae pobl drawsrywiol ac anneuaidd yn eu hwynebu oherwydd eu hunaniaeth.

6. Archwilio gwahaniad galwedigaethol ar sail rhyw, gan godi statws, llais a chyfleoedd gyrfa unrhyw grwpiau sy'n cael eu nodi fel rhai sydd wedi'u tanwerthfawrogi ac mewn perygl.

7. Lliniaru effaith cyfrifoldebau gofalu a seibiannau gyrfa sy'n gysylltiedig â rhyw, a chefnogi hyblygrwydd a chynnal 'cydbwysedd bywyd cyfan' iach.

8. Lliniaru effaith tymor byr a chontractau achlysurol sy'n gysylltiedig â rhyw i staff sy'n chwilio am yrfaoedd cynaliadwy.

 

Yr Athro Ryan Murphy
DPVC, Dirprwy Ddeon Gweithredol